Gangkhar Puensum yw'r mynydd uchaf ym Mhwtan a'r mynydd uchaf yn y byd sydd heb ei ddringo eto. Wedi i fynydda gael ei ganiatau ym Mhwtan yn 1983 gwnaed pedair ymgais aflwyddiannus yn 1985 a 1986. Ers 1994 gwaharddwyd dringo unrhyw fynydd dros 6000 medr ym Mhwtan.

Gangkhar Puensum
Mathmynydd, virgin peak Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGasa District Edit this on Wikidata
GwladBhwtan Edit this on Wikidata
Uwch y môr7,570 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.0469°N 90.455°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,995 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHimalaya Edit this on Wikidata
Map

Saif y mynydd ar y ffin rhwng Bhwtan a Tibet, er fod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch union leoliad y ffin. Yn 1998 cafodd dringwyr o Japan ganiatad i ddringo'r mynydd o Tibet, ond tynnwyd y caniatad yn ôl wedi gwrthwynebiad gan Bhwtan. Dringodd y tîm gopa is ar y mynydd, Liankang Kangri (7535 m.) y flwyddyn ganlynol.