Himalaya

Mae mynyddoedd yr Himalaya (Sanscrit: हिमालय ) yn gadwyn o fynyddoedd yn Asia, sy'n gwahanu gwastadeddau isgyfandir India oddi ar Lwyfandir Tibet. Defnyddir yr enw hefyd am yr holl fynyddoedd yn yr ardal yma, yn cynnwys y Karakoram a'r Hindu Kush.

Himalaya
Himalayas.jpg
हिमालय (Himālaya)
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
GwladNepal, Myanmar, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Pacistan, India, Affganistan, Bhwtan Edit this on Wikidata
Arwynebedd600,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,850 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29°N 84°E Edit this on Wikidata
Hyd2,400 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolEocene Edit this on Wikidata
Himalayas Map.png

Yn yr Himalya mae mynyddoedd uchaf y byd. Y mynydd uchaf yn y byd tu allan i'r Himalaya yw Aconcagua yn yr Andes, sy'n 6,962m o uchder, ond yn yr Himalaya mae dros gant o fynyddoedd dros 7,200m o uchder. Mae'r Himalaya yn rhedeg drwy chwe gwlad: Bhwtan, Tsieina, India, Nepal, Pacistan ac Affganistan. Yn y mynyddoedd hyn mae tarddle nifer o afonydd mawr y byd megis yr Indus, cy Ganga, y Brahmaputra a'r Yangtze. Maent yn ymestyn am tua 2,400km o Nanga Parbat (Pacistan) yn y gorllewin i Namche Barwa yn y dwyrain.

Mewn cyferbyniad, mae'r copa uchaf y tu allan i Asia (Aconcagua, yn yr Andes) yn 6,961 metr (22,838 tr) o uchder.[1]

Mae anghydfod ynghylch sofraniaeth y gadwen o fynyddoedd yn Kashmir a hynny rhwng India, Pacistan a Tsieina.[2] Mae mynyddoedd yr Himalaya'n ffinio â'r gogledd-orllewin gan gadwynau Karakoram a Hindu Kush, i'r gogledd gan Lwyfandir Tibet, ac i'r de gan Wastadedd Indo-Gangetig. Mae rhai o brif afonydd y byd, yr Indus, y Ganga, a'r Tsangpo - Brahmaputra, yn codi yng nghyffiniau'r Himalaya, ac mae eu basn draenio cyfun yn gartref i ryw 600 miliwn o bobl gyda 53 miliwn yn byw yn yr Himalaya.[3] Dylanwadodd yr Himalaya yn gryf ar ddiwylliannau De Asia a Tibet, gyda llawer o'r copaon yn gysegredig mewn Hindŵaeth a Bwdhaeth.

DaearyddiaethGolygu

Mae'r Himalaya yn cynnwys sawl cadwyn o fynyddoedd cyfochrog:

  1. Bryniau Sivalik yn y de;
  2. Cadwen Isaf yr Himalaya;
  3. Yr Himalaya Mawr, sef yr ystod uchaf a chanolog;
  4. Yr Himalaya Tibetaidd yn y gogledd.

Yn gyffredinol, ystyrir bod y Karakoram ar wahân i'r Himalaya.

Yng nghanol cromlin fawr mynyddoedd yr Himalaya mae copaon Dhaulagiri ac Annapurna yn Nepal, ill dau dros 8,000 m, ac wedi'u gwahanu gan Geunant Kali Gandaki. Mae'r ceunant yn hollti'r Himalaya o ran ecolegol ac yn orograffig yn Orllewin ac yn Ddwyrain. Y bwlch (pas) ym mhen draw'r Kali Gandaki y Kora La yw'r pwynt isaf ar y gefnffordd rhwng Everest a K2 (copa uchaf ystod Karakoram). I'r dwyrain o Annapurna mae copaon 8,000 metr Manaslu ac ar draws y ffin yn Tibet, Shishapangma. I'r de o'r rhain mae Kathmandu, prifddinas Nepal a dinas fwyaf yr Himalaya.

I'r dwyrain o Gwm Kathmandu mae dyffryn afon Bhote / Sun Kosi sy'n codi yn Tibet ac yn darparu'r prif lwybr dros y tir rhwng Nepal a China - Priffordd Araniko / Priffordd Genedlaethol Tsieina 318. Ymhellach i'r dwyrain mae'r Mahalangur Himal gyda phedwar o chwe mynydd ucha'r byd, gan gynnwys yr uchaf: Cho Oyu, Everest, Lhotse a Makalu. Mae rhanbarth Khumbu, sy'n boblogaidd ar gyfer merlota, i'w gael yma ar y ffyrdd de-orllewinol o Everest. Llifaafon Arun drwy lethrau gogleddol y mynyddoedd hyn, cyn troi i'r de gan nadreddu i'r dwyrain o Makalu.

Prif fynyddoeddGolygu

Ymhlith prif fynyddoedd yr Himalaya mae:

  • Qomolangma (Mynydd Everest) 8,848m (29,028 troedfedd), y mynydd uchaf yn y byd.
  • K2 8,611m (28,251 troedfedd) ar y ffin rhwng Pacistan a Tsieina. Ystyrir hwn y mynydd anoddaf yn y byd i'w ddringo.
  • Kangchenjunga 8,586m (28,169 troedfedd).
  • Makalu 8,462m (27,765 troedfedd).
  • Dhaulagiri 8,167m (26,764 troedfedd).
  • Nanga Parbat 8,125m (26,658 troedfedd). Mynydd eithriadol o beryglus i'w ddringo.
  • Annapurna 8,091m (26,545 troedfedd)
  • Nanda Devi 7,817m (25,645 troedfedd)

Rhai o ddringwyr yr HimalayaGolygu

Un o'r cyntaf i ddringo mynydd yn yr Himalaya er mwyn ei ddringo oedd y Cymro Syr William Lloyd, a ddringodd Boorendo yn 1822.

DaearegGolygu

 
Llun o loeren yn dangos bwa'r Himalayas

Mynyddoedd yr Himalaya yw un o'r mynyddoedd ieuengaf ar y blaned ac mae'n cynnwys craig waddodol a metamorffig wedi'i godi, yn bennaf. Yn ôl theori fodern tectoneg platiau, mae ei ffurfiant yn ganlyniad i wrthdrawiad cyfandirol rhwng y Plât Indo-Awstralia a'r Plât Ewrasiaidd. Ffurfiwyd ucheldiroedd Arakan Yoma ym Myanmar ac Ynysoedd Andaman a Nicobar ym Mae Bengal hefyd o ganlyniad i'r gwrthdrawiad aruthrol hwn.

Yn ystod y Cretasaidd Uchaf, tua 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y Plât Indo-Awstraliaidd sy'n symud i'r gogledd (sydd wedi torri i mewn i'r Plât Indiaidd a Phlât Awstralia[4]) yn symud tua 15 cm (5.9 mod) y flwyddyn. Tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd y Plât Indo-Awstralia cyflym hwn wedi cau Cefnfor Tethys yn llwyr. Y dystiolaeth o hyn yw creigiau gwaddodol ar lawr y cefnfor a'r llosgfynyddoedd a oedd ar gyrion ei ymylon. Gan fod y ddau blat yn cynnwys cramen gyfandirol (continental crust) dwysedd isel, cawsant eu gwasgu a'u plygu'n fynyddoedd yn hytrach na'u tynnu i'r fantell ar hyd y ffos gefnforol. Ffaith a ddyfynnir yn aml a ddefnyddir i ddangos y broses hon yw bod copa Mynydd Everest wedi'i wneud o galchfaen morol o'r cefnfor hynafol hwn.[5]

Heddiw, mae'r plât Indiaidd yn parhau i gael ei yrru'n llorweddol ar Lwyfandir Tibet, sy'n gorfodi'r llwyfandir i barhau i symud i fyny,[6] gyda phlât India'n symud 67 mm y flwyddyn. Dros y 10 miliwn blwyddyn nesaf, bydd yn teithio tua 1,500 km (930 mi) i mewn i Asia. Mae'r Himalaya'n codi tua 5 mm y flwyddyn, gan eu gwneud yn ddaearegol "weithredol" (active). Mae symudiad y plât Indiaidd i'r plât Asiaidd hefyd yn gwneud y rhanbarth hwn yn weithredol yn seismig, gan arwain at ddaeargrynfeydd o bryd i'w gilydd.

Yn ystod yr oes ddiwethaf, roedd llif iâ rhewlifol yn cysylltu Kangchenjunga yn y dwyrain a Nanga Parbat yn y gorllewin.[7] Yn y gorllewin, ymunodd y rhewlifoedd â'r rhwydwaith llif iâ yn y Karakoram, ac yn y gogledd, fe wnaethant ymuno â hen rew mewndirol Tibet. I'r de, daeth rhewlifoedd all-lif i ben o dan ddrychiad o 2,000 metr. Tra bod rhewlifoedd dyffryn presennol yr Himalaya yn cyrraedd 20 – 30 km o hyd roedd nifer o brif rewlifoedd y dyffryn yn 60 – 112 km o hyd yn ystod oes yr iâ. Roedd yr hinsawdd o leiaf 7 - 8.3 gradd canradd yn oerach nag y mae heddiw.

HydrolegGolygu

 
Cydlifiad Afonydd Indus a'r Afon Zanskar yn yr Himalaya

Er gwaethaf eu mawredd, nid yw'r Himalaya'n ffurfio watershed mawr, ac mae nifer o afonydd yn torri trwy'r cadwynni mynyddoedd, yn enwedig yn y rhan ddwyreiniol. O ganlyniad, nid yw prif grib yr Himalaya wedi'i diffinio'n glir, ac nid yw bylchau'r mynydd mor amlwg â mynyddoedd eraill. Mae afonydd yr Himalaya yn draenio i ddwy system o afonydd:

  • Mae'r afonydd gorllewinol yn cyfuno i mewn i Fasn Indus. Mae'r Indus ei hun yn ffurfio ffiniau gogleddol a gorllewinol yr Himalaya. Mae'n cychwyn yn Tibet yng nghymer afonydd Sengge a Gar ac yn llifo i'r gogledd-orllewin trwy India i Bacistan cyn troi i'r de-orllewin i Fôr Arabia. Llifa sawl llednant fawr sy'n draenio llethrau deheuol yr Himalaya iddo, gan gynnwys afonydd Jhelum, Chenab, Ravi, Beas a Sutlej, pum afon y Punjab.
  • Mae afonydd eraill yr Himalaya yn draenio Basn Ganges-Brahmaputra. Ei phrif afonydd yw'r Ganges, y Brahmaputra a'r Yamuna. Mae'r Brahmaputra'n tarddu fel Afon Yarlung Tsangpo yng ngorllewin Tibet, ac yn llifo i'r dwyrain trwy Tibet ac i'r gorllewin trwy wastadeddau Assam. Mae'r Ganges a'r Brahmaputra yn cwrdd ym Mangladesh ac yn draenio i Fae Bengal trwy ddelta fwya'r byd, y Sunderbans.

RhewlifoeddGolygu

O fewn cadwynni mynyddoedd mawr canol Asia, gan gynnwys yr Himalaya, ceir y pentwr rhew ac eira trydydd-mwya'r byd, wedi'r Antarctica a'r Arctig. Mae amrediad yr Himalaya yn cwmpasu tua 15,000 o rewlifoedd, sy'n storio tua 12.000 km ciwbic o ddŵr croyw. Mae ei rhewlifoedd yn cynnwys y Gangotri a'r Yamunotri (Uttarakhand) a Khumbu rhewlifoedd (ardal Mynydd Chomolungma), Langtang rhewlif (Langtang rhanbarth) a Zemu (Sikkim).

 
Rhew ar Rewlif Khumbu

Oherwydd lledred y mynyddoedd ger y Trofan Cancr, mae'r llinell eira barhaol ymhlith yr uchaf yn y byd, sef tua 5,500 metr.[8] Mewn cyferbyniad, mae gan fynyddoedd cyhydeddol Gini Newydd, y Rwenzoris a Colombia linell eira tua 900 metr yn is.[9] Mae rhanbarthau uwch yr Himalaya wedi eu cloi ganeira trwy gydol y flwyddyn, er gwaethaf eu hagosrwydd at y trofannau, ac maent yn ffurfio tarddiad sawl afon fawr.

Yn ystod y 2010au a'r 2020au, mae gwyddonwyr a hinsoddwyr awedi monitro cynnydd sylweddol yng nghyfradd encilio rhewlifau ar draws y rhanbarth o ganlyniad i newid hinsawdd.[10] Er enghraifft, mae llynnoedd rhewlifol wedi bod yn ffurfio'n gyflym ar wyneb rhewlifoedd yn Himalaya Bhutan dros y cyfnod hwn. Er na fydd effaith hyn yn hysbys am nifer o flynyddoedd, gallai olygu trychineb i'r cannoedd o filiynau o bobl, islaw, sy'n dibynnu ar y rhewlifoedd i fwydo'r afonydd yn ystod y tymhorau sych.[11][12][13] Bydd y newid hinsawdd byd-eang yn effeithio ar adnoddau dŵr a bywoliaethau rhanbarth yr Himalaya Fawr.

LlynnoeddGolygu

 
Llyn Gurudongmar yn Sikkim

Mae ardal yr Himalaya yn rhwydwaith brith o gannoedd o lynnoedd.[14] Pangong Tso, ar y ffin rhwng India a Tsieina, ym mhen gorllewinol pellaf Tibet, yw un o'r mwyaf, gydag arwynebedd o 700 km sg.

I'r de o'r brif amrediad o fynyddoedd, mae'r llynnoedd yn llai. Llyn Tilicho ym masiff Annapurna, Nepal yw un o'r llynnoedd uchaf yn y byd. Mae llynnoedd nodedig eraill yn cynnwys Llyn Rara yng ngorllewin Nepal, Llyn She-Phoksundo ym Mharc Cenedlaethol Shey Phoksundo hefyd yn Nepal, Llyn Gurudongmar, yng Ngogledd Sikkim, Llynnoedd Gokyo yn ardal Solukhumbu yn Nepal a Llyn Tsongmo, ger y ffin Indo-China yn Sikkim.[14]

Mae rhai o'r llynnoedd creu llifogydd rhewlifol Mae llyn rhewlif Tsho Rolpa yn Nyffryn Rowaling, a elwir yn Saesneg yn glacial lake outburst flood. Yn Ardal Dolakha yn Nepal y ceir y mwyaf peryglus, llyn sydd wedi'i leoli ar uchder o 4,580 metr, ac sydd wedi tyfu'n sylweddol dros yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd toddi rhewlifol.[15][16] Mae daearyddwyr yn adnabod y llynnoedd mynydd hyn fel tarns os ydynt yn cael eu hachosi gan weithgaredd rhewlifol.Yn rhannau uchaf yr Himalaya y ceir y rhan fwyaf ohonyn nhw, hy ar dir uwch na 5,500 metr.[17]

HinsawddGolygu

Mae maint anferthol, uchder y mynyddoedd, a thopograffi cymhleth yr Himalaya'n golygu eu bod yn cael ystod eang o hinsoddau amrywiol, o is-drofannol llaith yn y troedleoedd i amodau anialwch oer a sych ar ochr Tibet. Ar ochr ddeheuol y mynyddoedd uchel, ac eithrio yn y gorllewin pellaf, nodwedd fwyaf yr hinsawdd yw'r monsŵn. Glawia monsŵn y de-orllewin yn drwm ym Mehefin hyd at fis Medi. Gall y monsŵn effeithio'n ddifrifol ar drafnidiaeth drwy greu tirlithriadau mawr. Mae'n cyfyngu ar dwristiaeth - mae'r tymor merlota a mynydda wedi'i gyfyngu i naill ai cyn y monsŵn yn Ebrill / Mai neu ar ôl y monsŵn yn Hydref / Tachwedd. Yn Nepal a Sikkim, yn aml ystyrir bod pum tymor:yr haf, y monsŵn, yr hydref, (neu 'wedi'r monsŵn), y gaeaf a'r gwanwyn.

Gan ddefnyddio dosbarthiad hinsawdd Köppen, mae drychiadau isaf yr Himalaya, yn cael eu dosbarthu fel Cwa, hinsawdd is-drofannol llaith gyda gaeafau sych. Yn uwch i fyny, mae gan y rhan fwyaf o'r Himalaya hinsawdd ucheldirol isdrofannol (Cwb).

Mae ochr ogleddol yr Himalaya, a elwir hefyd yn "Himalaya Tibetaidd", yn sych, yn oer ac yn gyffredinol, gwyntog yn enwedig yn y gorllewin lle mae ganddo hinsawdd anialwch oer. Mae'r llystyfiant yn denau ac yn grebachlyd ac mae'r gaeafau'n oer iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r dyodiad yn y rhanbarth ar ffurf eira yn ystod misoedd hwyr y gaeaf a'r gwanwyn.

Mae'r Himalaya yn cael effaith ddwys ar hinsawdd isgyfandir India a Llwyfandir Tibet. Maent yn atal gwyntoedd miniog, sych rhag chwythu i'r de i'r isgyfandir, sy'n cadw De Asia'n llawer cynhesach na'r rhanbarthau tymherus cyfatebol yn y cyfandiroedd eraill. Mae hefyd yn rhwystro'r gwyntoedd monsŵn, gan eu hatal rhag teithio tua'r gogledd, ac achosi glawiad trwm. Credir bod yr Himalaya hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio anialwch Canol Asia, fel y Taklamakan a Gobi.[18]

EcolegGolygu

Tahr gwrywaidd

Mae fflora a ffawna'r Himalaya yn amrywio yn ôl hinsawdd, glawiad, uchder a phriddoedd. Mae'r hinsawdd yn amrywio o hinsawdd drofannol ar waelod y mynyddoedd i rew ac eira parhaol ar y drychiadau uchaf. Mae maint y glawiad blynyddol yn cynyddu o'r gorllewin i'r dwyrain. Oherwydd yr amrywiaeth hwn o uchder, glawiad ac amodau pridd ynghyd â'r llinell eira uchel iawn ceir amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol.[14] Mae eithafion uchder uchel (gwasgedd atmosfferig isel) ynghyd ag oerni eithafol yn ffafrio organebau eithafol.[19][20]

Ar uchderau uchel, y llewpard eira yw'r prif ysglyfaethwr. Mae ei ysglyfaeth yn cynnwys aelodau o deulu’r geifr sy'n byw ar y tir creigiog, y defaid baral endemig a defaid glas yr Himalaya. Gwelir ceirw mwsg hefyd ar y tir uchel. Wedi'i hela am ei arogl (mysg), mae bellach yn brin iawn ac mewn perygl. Ymhlith y llysysyddion brodorol neu lled-frodorol eraill mae tahr yr Himalaya, y takin, serow Himalaya, a'r goral. Mae'r arth frown mewn perygl difrifol i'w gael hwnt ac yma ar draws yr mynyddoedd fel y mae'r arth ddu Asiaidd hithau. Yng nghoedwigoedd collddail mynyddig a chonwydd mynyddoedd dwyreiniol yr Himalaya, mae'r panda coch yn bwydo yn isdyfiant trwchus bambŵ. Yn is i lawr, yng nghoedwigoedd y troedleoedd mae nifer o wahanol epaod a mwnciod yn byw, gan gynnwys langur euraidd Gee sydd mewn perygl a langur llwyd Kashmir, mewn rhai cynefinoedd cyfyngedig iawn yn nwyrain a gorllewin yr Himalaya.[20]

Mae cyfoeth blodau a ffawna unigryw'r Himalaya yn destun newidiadau strwythurol a chyfansoddiadol oherwydd newid hinsawdd. Mae Hydrangea hirta yn enghraifft o rywogaeth o flodau sydd i'w cael yn yr ardal hon. Mae'r cynnydd mewn tymheredd yn symud amrywiol rywogaethau i ddrychiadau uwch, at gynefinoedd oerach. Mae coedwigoedd pinwydd yn rhanbarth Garhwal Himalayan yn cymryd cynefin y coedwigoedd derw. Ceir adroddiadau bod blodeuo a ffrwytho cynharach yn digwydd mewn rhai rhywogaethau o goed, y rhododendron, afal a'r myrtwydd. Y rhywogaeth mwyaf hysbys o goed yn yr Himalaya yw Juniperus tibetica sy'n tyfu ar uchder o tua 4,900 metr yn Ne-Ddwyrain Tibet.[21]

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma


CyfeiriadauGolygu

  1. Yang, Qinye; Zheng, Du (2004). Himalayan Mountain System. ISBN 978-7-5085-0665-4. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2016.
  2. Bishop, Barry. "Himalayas (mountains, Asia)". Encyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2016.
  3. A.P. Dimri; B. Bookhagen; M. Stoffel; T. Yasunari (8 Tachwedd 2019). Himalayan Weather and Climate and their Impact on the Environment. Springer Nature. t. 380. ISBN 978-3-030-29684-1.
  4. (1995) Geologists Find: An Earth Plate Is Breaking in Two
  5. Mount Everest – Overview and Information by Matt Rosenberg. ThoughtCo Updated 17 Mawrth 2017
  6. "Plate Tectonics -The Himalayas". The Geological Society. Cyrchwyd 13 Medi 2016.
  7. glacier maps downloadable
  8. Shi, Yafeng; Xie, Zizhu; Zheng, Benxing; Li, Qichun (1978). "Distribution, Feature and Variations of Glaciers in China". World Glacier Inventory. http://itia.ntua.gr/hsj/redbooks/126/iahs_126_0111.pdf.
  9. Henderson-Sellers, Ann; McGuffie, Kendal (2012). The Future of the World's Climate: A Modelling Perspective. tt. 199–201. ISBN 978-0-12-386917-3.
  10. "Vanishing Himalayan Glaciers Threaten a Billion". Reuters. 4 Mehefin 2007. Cyrchwyd 13 Mawrth 2018.
  11. Kaushik, Saurabh; Rafiq, Mohammd; Joshi, P.K.; Singh, Tejpal (April 2020). "Examining the glacial lake dynamics in a warming climate and GLOF modelling in parts of Chandra basin, Himachal Pradesh, India" (yn en). Science of the Total Environment 714: 136455. Bibcode 2020ScTEn.714m6455K. doi:10.1016/j.scitotenv.2019.136455. PMID 31986382. https://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S0048969719364514.
  12. Rafiq, Mohammd; Romshoo, Shakil Ahmad; Mishra, Anoop Kumar; Jalal, Faizan (January 2019). "Modelling Chorabari Lake outburst flood, Kedarnath, India" (yn en). Journal of Mountain Science 16 (1): 64–76. doi:10.1007/s11629-018-4972-8. ISSN 1672-6316. http://link.springer.com/10.1007/s11629-018-4972-8.
  13. "Glaciers melting at alarming speed". People's Daily Online. 24 Gorffennaf 2007. Cyrchwyd 17 April 2009.
  14. 14.0 14.1 14.2 O'Neill, A. R. (2019). "Evaluating high-altitude Ramsar wetlands in the Sikkim Eastern Himalayas". Global Ecology and Conservation 20 (e00715): 19. doi:10.1016/j.gecco.2019.e00715. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "O'Neill_2019" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "O'Neill_2019" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  15. Photograph of Tsho Rolpa
  16. Tsho Rolpa
  17. Drews, Carl. "Highest Lake in the World". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-24. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.
  18. Devitt, Terry (3 Mai 2001). "Climate shift linked to rise of Himalayas, Tibetan Plateau". University of Wisconsin–Madison News. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2011.
  19. Hogan, C. Michael (2010). Monosson, E. (gol.). "Extremophile". Encyclopedia of Earth. Washington, DC: National Council for Science and the Environment.
  20. 20.0 20.1 O'Neill, Alexander (25 Chwefror 2020). "Establishing Ecological Baselines Around a Temperate Himalayan Peatland". Wetlands Ecology & Management 28 (2): 375–388. doi:10.1007/s11273-020-09710-7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "oneill_khecheopalri" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  21. Miehe, Georg; Miehe, Sabine; Vogel, Jonas; Co, Sonam; Duo, La (May 2007). "Highest Treeline in the Northern Hemisphere Found in Southern Tibet". Mountain Research and Development 27 (2): 169–173. doi:10.1659/mrd.0792. http://www.uni-marburg.de/fb19/personal/professoren/miehe/pdfs/20074.pdf.