Gardd RHS Harlow Carr

Gardd ar gyrion gorllewinol tref Harrogate, Gogledd Swydd Efrog, yw Gardd RHS Harlow Carr a reolir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Dyma un o bum gardd sy'n perthyn i'r gymdeithas. Wisley, Hyde Hall, Rosemoor a Bridgewater yw'r lleill. Daeth yr RHS i feddiant Harlow Carr trwy ei uno â Chymdeithas Arddwriaethol y Gogledd yn 2001. Hwn oedd maes prawf a gardd arddangos Cymdeithas Arddwriaethol y Gogledd ers iddi ei brynu ym 1946.[1]

Gardd RHS Harlow Carr
Mathparc, gardd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.9822°N 1.5725°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau

golygu
  1. "History of Harlow Carr", Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022

Dolen allanol

golygu