Gardd RHS Rosemoor

Gardd arddangos yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Gardd RHS Rosemoor a reolir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Fe'i lleolir tua 1 milltir (1.5 km) i'r de o dref Great Torrington. Dyma un o bum gardd sy'n perthyn i'r gymdeithas. Wisley, Hyde Hall, Harlow Carr a Bridgewater yw'r lleill. Mae'n cynnwys gardd rhosod gyda thua 2,000 o blanhigion; arboretum; gerddi perlysiau, ffrwythau a llysiau; a thŷ gwydr o blanhigion alpaidd.

Gardd RHS Rosemoor
Mathgardd fotaneg, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.9389°N 4.1381°W Edit this on Wikidata
Map

Roedd yr ardd, a ddechreuwyd ym 1959, yn wreiddiol yn rhan o ystad breifat. Fe'i rhoddwyd i'r RHS yn 1988.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of RHS Garden Rosemoor", Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022

Dolen allanol golygu