Gardd RHS Bridgewater

Gardd ym mhentref Worsley, Manceinion Fwyaf, yw Gardd RHS Bridgewater a reolir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Dyma un o bum gardd sy'n perthyn i'r gymdeithas. Wisley, Hyde Hall, Harlow Carr, a Rosemoor yw'r lleill. Mae wedi ei henwi ar ôl Camlas Bridgewater sy'n ffurfio'i ffin ddeheuol.

Gardd RHS Bridgewater
Mathgardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Salford Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4998°N 2.4004°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd yr ardd yn wreiddiol yn rhan o ystad Worsley New Hall, plasty a ddymchwelwyd yn 1940. Aeth y gerddi helaeth a godidog eu hunain yn adfail. Mae'r ardd bresennol yn rhan o gynllun i'w hadfer a'u hadnewyddu. Fe’i hagorwyd i’r cyhoedd yn 2021.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of Worsley New Hall", Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022

Dolen allanol golygu