Gardd y Pleserau Daearol
Paentiad gan Hieronymous Bosch (1450-1516) yw Gardd y Pleserau Daearol, sy'n darlunio'n alegorïaidd pleserau'r cnawd. Cafodd ei baentio ar ddechrau'r 16g (tua 1503-05 efallai). Mae ar gadw yn y Museo del Prado, Madrid.
Mae'n baentiad olew ar bren sy'n mesur 220 × 389 cm (86.61 × 153.15 modfedd). Rhennir y paentiad dros dri darn, sef paneli triptych. Mae'r ddau banel allanol yn baentiedig ar y cefn ac yn cau dros y canol.
Hanes ei feddiantGolygu
Dynoda (?) fod y rhan yma o'i hanes yn ansicr.
- erbyn 1517: Harri III, Cownt Nassau (?)
- 1538: etifeddwyd gan William I, Tywysog Orange (?)
- 1568: cymerwyd gan Fernando Álvarez de Toledo, 3ydd Dug Alba (?)
- Dyddiad ansicr: cafwyd gan Don Fernando (?)
- 1591: prynwyd gan Philip II o Sbaen (?)
- 1593: trosglwyddwyd i'r Monasterio de El Escorial
- 1939: trosglwyddwyd i'r Museo del Prado o'r Escorial