Dameg estynedig sy'n pwysleisio'i hystyr symbolaidd yw alegori (weithiau 'aralleg').

Alegori
Enghraifft o'r canlynoldosbarth llenyddol Edit this on Wikidata
Mathtrope, stylistic device Edit this on Wikidata
Enw brodorolἀλληγορία Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

Ymddangosodd y gair yn llenyddiaeth Gymraeg y 17g, yng ngwaith Elis Gruffydd ("Y Milwr o Galais") (Mos 158 51b):

llyuyr mawr o aligoris ar lyure yr ysguthyr laan.

ac yna yng nghyfieithiad 1620 o Epistol Paul at y Galatiaid (1620 Gal iv. 24):

Yr hyn bethau ydynt mewn alegori (W. Salesbury: KLl xixb, ar ddamec; TN 282a, Wrth y petheu hyn y dyellir peth arall; 1588 Gal iv. 24, a arwyddocânt beth arall).

Mae diffiniad Salesbury yn taro'r hoelen ar ei phen: alegori yw dweud un peth gan olygu peth arall, yn debyg felly i drosiad mewn barddoniaeth. Diffinnir y gair yng Ngeiriadur y Brifysgol fel: cyfansoddiad, darlun, ayb, sy’n dwyn ail ystyr ffigurol, aralleg.[1]

Enghreifftiau golygu

 
Twm o'r Nant (Thomas Edwards). Engrafiad o'r 19eg ganrif seiliedig ar bortread o ddiwedd y 18fed ganrif o'r dramodydd enwog. Cyhoeddwyd yn Ceinion Llenyddiaeth Gymreig gan Owen Jones (1876).

Lluniodd John Bunyan hanes pererindod y Cristion drwy 'anialwch' y byd hwn, ac yn hytrach na galw'r pererin yn 'John', galwodd ef yn 'Gristion'. Rhoddodd iddo gyfaill ffyddlon, ac yn lle ei alw'n 'William', galwodd ef yn 'Ffyddlon'. Pan ddaw at ffair sy'n cynrychioli gwagedd a chors sy'n cynrychioli anobaith, fe'i gelwir yn 'Ffair Wagedd' (Vanity Fair) a 'Chors Anobaith' (the Slough of Despond)... ac felly ymlaen.

Wrth gyflwyno'i gerdd hir 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus', mynnodd William Williams (Pantycelyn): 'Ni ellir ei alw yn alegori, am fod y personau yn wir ddynion'. Ond anodd meddwl nad oes dyled i'r traddodiad alegorïaidd yn enw Theomemphus (Ceisiwr Duw), ac enwau cymeriadau eraill megis Aletheius (Gwirionedd), Seducus (Hud-ddenwr), Abasis (Disylfaen), Philomede (Hoff o Fwlio) ayb. Nid yw hyn yn eu rhwystro rhag bod yn 'wir ddynion', mwy nag y rhwystrodd gymeriadau Bunyan.

Bu alegori yn un o hoffterau mawr bydoedd llenyddol yr Oesoedd Canol a'r Dadeni. Gwaith poblogaidd a mawr ei ddylanwad fu Le Roman de la Rose, o ddwylo dau awdur Ffrangeg o'r 13g-14g, yn dilyn troeon yr ymchwil am y rhosyn prin, sef Serch. Ceir cymeriadau fel Bel-Accueil (Croeso), Dangier (Perygl) a Faux-Semblant (Rhagrith). Alegorïaidd drwyddi yw The Faerie Queene gan Edmund Spenser, epig Saesneg Oes Elizabeth. Ceir elfen alegorïaidd gref yng ngweithiau Morgan Llwyd yn y 17g, yn enwedig rhwng cloriau Llyfr y Tri Aderyn, ac ymhen canrif eto fe'i gwelir drwy anterliwtiau Twm o'r Nant: lle gelwir y Cybyddion yn 'Rhinallt Ariannog', 'Hywel Dordyn', 'Mr Blys y Cwbl', a'r Ffyliaid yn 'Syr Iemwnt Wamal', 'Mr Rhyfyg Natur', 'Mr Pleser', 'Mr Oferedd'; i ymuno â hwy daw 'Cariad Perffaith', 'Gofid', 'Cydwybod', 'Madam Duwioldeb Crefydd' a nifer o rai eraill.

Erbyn Oes Victoria darfuasai alegori yn ei ffurf buraf, ond erys gweddillion ohono yn y nofel. Yng ngwaith Charles Dickens nid oes fawr amheuaeth sut ddyn yw 'Mr Gradgrind' na sut ysgol yw 'Dotheboys Hall'. Mae ambell gymeriad gan Daniel Owen ag arlliw alegorïaidd ar ei enw, – 'Sharp Rogers', 'Mr Smart' a 'Mr Strangle'. Amgylchynir 'Ffermwr Careful Cilhaul Uchaf' yn stori Samuel Roberts gan lu o gymeriadau ag enwau Saesneg neu hanner-Saesneg eto: Ned Slow a'i wraig Peggy Slwt Slow, Billy Active, Tomi Strong ayb.

Fel doniolwch y goroesodd elfennau alegorïaidd i'r 20g, ond gwelwn gysondeb alegori drwy ddameg enwog George Orwell, Animal Farm, gyda phob anifail yn cynrychioli rhyw garfan neu'i gilydd yn nhrybestod y Chwyldro Comiwnyddol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur y Brifysgol; adalwyd 21 Tachwedd 2016
  • Dafydd Glyn Jones
  • Lewis, C. S. (1936), The Allegory of Love. A Study in Mediaeval Tradition (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).
  • MacQueen, J. (1970), Allegory (Llundain: Methuen).
  • Bevan, H. (1950), Alegorïau Christmas Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Alegori ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.