Gwyddor a diwydiant tyfu planhigion yw garddwriaeth, sy'n cynnwys y broses o ddarparu'r pridd ar gyfer plannu hadau, gwreiddiau neu doriadau pren. Ar lefel diwydiant mae'n golygu tyfu llysiau a ffrwythau i'w bwyta ("garddio marchnad") a mangoed, coed a phlanhigion eraill er mwyn arddurno gerddi.

Fferm arddwriaethol Prifysgol Keisen, Japan.
Hadfa mewn tŷ gwydr.

Y lefel symlaf o arddwriaeth yw person cyffredin sy'n meithrin planhigion yn yr ardd er mwyn pleser. Enghraifft gyffredin o arddwriaeth fasnachol yw'r fferm fechan sy'n tyfu llysiau neu ffrwythau neu'r ganolfan garddio leol. Ar raddfa arall ceir busnesau garddwriaethol sy'n cynhyrchu planhigion, blodau, llysiau, neu ffrwythau mewn tai gwydr neu gaeau mawr ar gyfer y fasnach.

Ceir sefydliadau addysg sy'n arbenigo mewn garddwriaeth, e.e. colegau garddwriaeth.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.