Tŷ gwydr

adeilad lle mae planhigion yn cael eu tyfu

Adeilad lle caiff planhigion eu tyfu ydy tŷ gwydr. Mae gan y strwythr do gwydr neu blastig tryloyw, ac yn aml waliau gwydr neu blastig hefyd. Cynhesir y planhigion a'r pridd y tu mewn i'r adeilad gan ymbelydredd solar o'r haul. Mae'r awyr twym, sydd wedi ei gynhesu gan arwynebedd poeth y tu mewn i'r strwythr, yn aros yn yr adeilad. Mae tai gwydr yn amrywio o faint sied fach i adeiladau mawr iawn.

Tŷ gwydr yn Saint Paul, Minnesota.

Gellir rhannu tai gwydr yn rhai gwydr a rhai phlastig. Y math o blastig a ddefnyddir gan amlaf yw ffilm PE a dalen eml wal PC neu PMMA. Mae tai gwydr masnachol yn gyfleusterau cynhyrchu llysiau a blodau o dechnoleg uwch. Llenwir rhai gwydr ag offer sgrinio, cynhesu, oeri a goleuo a all cael eu rheoli'n awtomatig gan gyfrifiadur.

Mae'r gwydr a ddefnyddir mewn tai gwydr yn gweithio fel cyfrwng trawsyriant o wahanol amlderau sbectrol. Mae hwn yn cadw egni y tu mewn i'r tŷ gwydr, sy'n cynhesu'r planhigion a'r pridd oddi mewn. O ganlyniad mae'r awyr yn agos i'r ddaear yn cael ei gynhesu a'i atal rhag codi a dianc. Gellir dangos hyn drwy agor ffenestr fechan yn agos i'r to fel y bo'r tymheredd yn gostwng. Yr egwyddor hon yw sail y system oeri awtomatig, autovent. Mae tai gwydr yn gweithio trwy ddal ymbelydredd electromagnetig ac atal darfudiad. Gelwir tŷ gwydr bach iawn yn ffram oer.

ffynonellau

golygu
  • May Woods, (1988) Glass houses: history of greenhouses, orangeries and conservatories Aurum Press, Llundain, ISBN 0-906053-85-4
  • Anne S. Cunningham, (2000) Crystal palaces : garden conservatories of the United States Princeton Architectural Press, Efrog Newydd, ISBN 1-56898-242-9
  • Olivier de Vleeschouwer, (2001) Greenhouses and conservatories Flammarion, Paris, ISBN 2-08-010585-X
  • Kenneth Lemmon, (1963) The covered garden Dufour, Philadelphia
  • Erwin W B van den Muijzenberg, (1980) A history of greenhouses Institute for Agricultural Engineering, Wageningen, Yr Iseldiroedd
  • Enoshima Jinja Shrine Botanical Garden Archifwyd 2014-08-24 yn y Peiriant Wayback

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am tŷ gwydr
yn Wiciadur.