Gareth Davies
chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru (1955- )
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o'r Tymbl, Sir Gaerfyrddin yw Gareth Davies (ganed 29 Medi 1955). Chwaraeodd i'w glwb lleol, Clwb Rygbi'r Tymbl, cyn ymuno â Llanelli ac wedyn Caerdydd. Cafodd 21 cap am chwarae dros Gymru, a chwaraeodd i'r Barbariaid ac i'r Llewod Prydeinig.
Gareth Davies | |
---|---|
Ganwyd | 29 Medi 1955 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, chwaraewr rygbi'r undeb |
Cyflogwr | |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi Prifysgol Rhydychen, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Wedyn, bu yn Bennaeth Chwaraeon BBC Cymru, Prif Weithredwr Clwb Athletig Caerdydd, ac yn brif weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru. Penodwyd yn Gadeirydd Undeb Rygbi Cymru yn Hydref 2014.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cwm Gwendraeth a Llanelli Ann Gruffydd. Gwasg Garreg Gwalch. 2000