Geirfa hanes Mecsico

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

caudillo

Arweinydd lleol a chanddo rym gwleidyddol a milwrol.

científicos

Cylch o ddeallusion a chynghorwyr technocrataidd yn ystod el porfiriato.

decena trágica, la

Y deng niwrnod o 9 i 19 Chwefror 1913, yn ystod Chwyldro Mecsico, pan gafodd yr Arlywydd Francisco Madero ei ddymchwel.

fueros

Breintiau arbennig yr eglwys a'r fyddin.

hacienda

Ystâd fawr.

jefe máximo, el

Llysenw Plutarco Elías Calles.

maximato, el

Y cyfnod o 1928 i 1934 pan oedd Plutarco Elías Calles yn dominyddu gwleidyddiaeth Mecsico, er iddo ildio'r arlywyddiaeth ym 1928.

mestiso (Sbaeneg: mestizo)

Un o dras gymysg Ewropeaidd a brodorol.

pan o palo

Ymadrodd Sbaeneg (yn llythrennol "bara neu bastwn") ac un o arwyddeiriau'r Arlywydd Porfirio Díaz.

porfiriato, el

Y cyfnod o 1876 i 1911 pan oedd Porfirio Díaz yn dominyddu gwleidyddiaeth Mecsico, ac yn arlywydd yn y cyfnodau 1877–80 a 1884–1911.

pueblo

Enw Sbaeneg ar bentrefi'r brodorion yng nghefn gwlad.

Reforma, La

Y cyfnod o 1854 i 1876 a noder gan newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol rhyddfrydol dan arweiniad Benito Juárez. Cychwynnodd gyda datganiad Plan de Ayutla a alwai am ddymchwel yr unben Antonio López de Santa Anna. Yn sgil cwymp Santa Anna ym 1855, cafodd cymdeithas Mecsico ei rhyddfrydoli gan sawl deddf yn dileu'r fueros a chyfansoddiad 1857.