Cyfnod o ryfela a gwrthryfela ym Mecsico oedd Chwyldro Mecsico (Sbaeneg: Revolución Mexicana) a barodd o 1910 i 1920. Dyma un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus a gwaedlyd yn hanes Mecsico.

Chwyldro Mecsico
Enghraifft o'r canlynolchwyldro, rhyfel cartref Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Tachwedd 1910 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPorfiriato Edit this on Wikidata
Olynwyd ganpost-revolutionary Mexico Edit this on Wikidata
LleoliadMecsico Edit this on Wikidata
RhagflaenyddPorfiriato Edit this on Wikidata
GwladwriaethMecsico Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cartŵn gwleidyddol o 1920 yn portreadu esgyniad a chwymp prif ffigurau'r chwyldro

Cefndir

golygu

Ym 1876, dymchwelwyd yr Arlywydd Sebastián Lerdo de Tejada gan wrthryfel dan arweiniad y Cadfridog Porfirio Díaz, a chafodd ei ethol yn arlywydd newydd Mecsico ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880–84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog Manuel González yn arlywydd, Díaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir el porfiriato. Erbyn dechrau'r 1900au roedd Díaz yn ei saithdegau, a chwestiwn ei olyniaeth yn tynnu sylw ei gefnogwyr yn ogystal â'i wrthwynebwyr. Y ddwy brif ochr yn y llywodraeth oedd cylch y científicos a oedd yn cynghori'r Arlywydd Díaz, a'r caudillos taleithiol, gan gynnwys y gweinidog rhyfel Bernardo Reyes. Lladmeryddion gwleidyddiaeth bositifaidd oedd y científicos, yn gysylltiedig â dynion busnes Dinas Mecsico, a ddymunasant plaid ganolog, genedlaethol i weithredu llywodraeth dechnocrataidd. Ffurfiwyd hefyd Plaid Ryddfrydol Mecsico (PLM) gan ryddfrydwyr a oedd yn credu bod Díaz yn cyfeiliorni ar Gyfansoddiad 1857, ac enillodd y blaid hon gefnogaeth wrth i chwyddiant, diweithdra, a streiciau waethygu yn y 1900au.

Erbyn y 1900au, seithfed tymor Díaz yn arlywydd, daeth anniddigrwydd o sawl carfan yng nghymdeithas Mecsico. Bellach roedd cylch ffyddlon Díaz yn heneiddio a heb newid arnynt, gan ddigio aelodau ieuengaf yr elitau yn y dinasoedd a chefn gwlad. Teimlodd gweithwyr proffesiynol a deallusion y dosbarth canol hefyd eu bod wedi eu cau allan o'r byd gwleidyddol a heb ddylanwad ar lywodraeth y wlad. Ffurfiwyd cymdeithasau a phleidiau newydd ar draws y wlad i drafod gweriniaetholdeb, i bwyso yn erbyn grym yr Eglwys Gatholig, ac i wrthwynebu ymdrechion Díaz i newid y cyfansoddiad ac estyn cyfnod ei arlywyddiaeth.

Ym 1900, dechreuodd yr amryw gymdeithasau rhyddfrydol ym Mecsico gyfuno i ffurfio'r Blaid Ryddfrydol (Partido Liberal Mexicano; PLM). Un o brif arianwyr y PLM oedd Francisco Madero, tirfeddiannwr a deallusyn cefnog o Coahuila. Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu, trodd aelodaeth y PLM yn fwyfwy radicalaidd. Cyhoeddwyd y cylchgrawn anarchaidd Regeneración gan y brodyr Ricardo ac Enrique Flores Magón, a ddylanwadai ar nifer o weithwyr ffatri i ymaelodi â'r PLM. Cafodd y brodyr Flores Magón a radicalwyr eraill eu carcharu gan Díaz mewn ymgais i atal chwyldro, ac aeth nifer ohonynt yn alltud i'r Unol Daleithiau. Gadawodd Madero y PLM erbyn 1909, am fod y blaid yn rhy anarchaidd ei hideoleg, ond fe barhaodd i wrthwynebu llywodraeth Díaz.

Etholiad arlywyddol 1910

golygu

Ym 1908 cafodd Díaz gyfweliad â'r newyddiadurwr James Creelman ar gyfer Pearson's Magazine (Efrog Newydd), a dywedodd na fyddai'n ymgynnig am yr arlywyddiaeth yn yr etholiad nesaf. Yn sgil cyhoeddi'r cyfweliad, dechreuodd Madero ymgyrchu am etholiad 1910 fel gwleidydd cymedrol ei ideoleg. Dewiswyd yn llywydd ar blaid newydd, y Blaid Wrth-Ailetholiadol Genedlaethol (Partido Nacional Antirreeleccionista; PNA), ac ymgyrchodd dan yr arwyddir "etholfraint effeithiol – dim ail-etholiad". Wedi hynny, penderfynodd Díaz enwebu ei hun am yr arlywyddiaeth am yr wythfed tro. Sefydlwyd hefyd y Blaid Ddemocrataidd gan Bernardo Reyes i gystadlu yn yr etholiad.

Ceisiodd Díaz ostegu'r gwrthsafiad i'w rym drwy anfon Reyes i Ewrop, a charcharu Madero am annog bradwriaeth. Enillodd Díaz yr etholiad drwy dwyll, gan danio dechrau'r chwyldro.

Y Chwyldro Rhyddfrydol (1910–13)

golygu

Y gwrthryfel yn erbyn Díaz (1910–11)

golygu

Yn nhermau gwleidyddol, cychwynnodd chwyldro 1910–11 fel mudiad cyfansoddiadol o fewn y garfan Ryddfrydol. Yn sgil sefydlu'r Weriniaeth Adferedig gan Benito Juárez o'r hen Blaid Ryddfrydol (Partido Liberal; PL) ym 1867, cafodd sawl norm ei gyflwyno i wleidyddiaeth Mecsico: ymlediad y grymoedd arlywyddol, twf canoliaeth, ac ailetholiadaeth. Ym 1871 a 1876 bu "etholfraint effeithiol" yn bwnc pwysig.

Wedi i Madero gael ei ryddhau o'r carchar, ffoes i Texas ac yno cyhoeddodd Gynllun San Luis Potosí ar 20 Tachwedd 1910. Dechreuodd ddau wrthryfel gan werinwyr yn erbyn tirfeddianwyr ym Mecsico: dan arweiniad Pascual Orozco a Pancho Villa yn Chihuahua, a gwrthryfel y pueblos dan Emiliano Zapata ym Morelos. Yn Chwefror 1911 croesodd Madero y ffin i Chihuahua a chymerodd awennau'r chwyldro, gyda chydsyniad mud llywodraeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd llywodraeth dros dro ganddo yn Ciudad Juárez.

Arlywyddiaeth dros dro Francisco León de la Barra (Mai – Tachwedd 1911)

golygu

Ar 21 Mai 1911 cytunodd Díaz i adael Mecsico ac i gynnal etholiadau rhydd, ar yr amod bod y gwrthryfelwyr yn ymddiarfogi. Er gwaethaf, parhaodd Zapata a'i wrthryfel ym Morelos.

Arlywyddiaeth Madero (Tachwedd 1911 – Chwefror 13)

golygu

Enillodd Madero fwyafrif helaeth o'r pleidleisiau yn yr etholiad arlywyddol yn Hydref 1911. Er gwaethaf ei fuddugoliaeth, trodd nifer o'i gyd-chwyldroadwyr yn ei erbyn. Arweiniodd Reyes wrthryfel methedig yn ei erbyn. Yn Nhachwedd cyhoeddodd Zapata Gynllun Ayala, a bu gwrthryfel newydd yn Chihuahua, ac aflonyddwch diwydiannol mewn rhannau eraill o'r wlad. Collodd yr Arlywydd Madero gefnogaeth yr Unol Daleithiau drwy gyflwyno treth ar gynhyrchu olew.

Ym 1912, gyda chymorth ei frawd Gustavo a'i ewythr Ernesto, ymdrechodd Madero atgyfnerthu ei rym drwy dorri ei gysylltiadau â'r científicos. Arweiniodd Félix Díaz, nai'r cyn-arlywydd, wrthryfel yn Hydref 1912 i geisio adfer y científicos.

La Decena Trágica (Chwefror 1913)

golygu

Yn Chwefror 1913 bu'r ail ymgais i adfer y científicos, gan gychwyn yr hyn a elwir La Decena Trágica. Yn sgil miwtini yn erbyn Madero yn Ninas Mecsico, trodd y Cadfridog Victoriano Huerta yn ei erbyn a gorfododd iddo ymddiswyddo. Wedi i Huerta gipio'r arlywyddiaeth, gorchmynnodd lofruddiaeth Madero a'i is-arlywydd Pino Suárez, diddymodd y ddeddfwrfa, a sefydlodd ei hun yn unben milwrol ar Fecsico. Penododd Huerta científicos yn ogystal ag aelodau o blaid Reyes i'w gabinet.

Arlywyddiaeth Huerta (1913–14)

golygu
 
Map o symudiadau a brwydrau'r byddinoedd Cyfansoddiadol yn ystod 1913–14.

Wynebodd Huerta wrthwynebiad oddi wrth y Cyfansoddiadwyr dan arweiniad Venustiano Carranza, Álvaro Obregón, Pancho Villa, ac Emiliano Zapata. Enillasant gefnogaeth Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a anfonodd luoedd Americanaidd i feddiannu Veracruz ym 1914. Yn sgil buddugoliaeth y Cyfansoddiadwyr, ymddiswyddodd Huerta ar 15 Gorffennaf 1914 a ffoes i Sbaen.

Brwydrau'r chwyldroadwyr (1914–15)

golygu

Galwyd Cynhadledd Aguascalientes gan Carranza yn Hydref 1914, ac yno cytunodd chwyldroadwyr Zapata a Villa i benodi Eulalio Gutiérrez yn arlywydd dros dro. Gwrthodwyd y penderfyniad hwn gan Carranza, a aeth i Veracruz gyda'i lywodraeth a lluoedd o Carrancistas.

Yn y cyfnod hwn o'r chwyldro, brwydrodd y Cynhadleddwyr yn erbyn y Carrancistas. Ar 24 Tachwedd 1914, anfonodd Zapata ei luoedd—bellach o'r enw Byddin Rhyddhau'r De—i feddiannu Dinas Mecsico. Daeth rhyw 25,000 o chwyldroadwyr tlawd, ac aethant ati i erfyn bwyd gan y trigolion yn hytrach nac anrheithio'r ddinas. Dwy wythnos yn ddiweddarach, cyfarfu Zapata â Villa ar gyrion y brifddinas ac ymwelasant â'r Palas Cenedlaethol. Cytunodd y ddau i frwydro'n erbyn Carranza ac i gadw at Gynllun Ayala. Er gwaethaf buddugoliaethau'r Cynhadleddwyr ar faes y gad, cipiodd Carranza yr arlywyddiaeth drwy alw Cynhadledd Gyfansoddiadol Querétaro ym 1916.

Arlywyddiaeth Carranza (1916–20)

golygu

Ymgynghreiriodd Adolfo de la Huerta ag Obregón a Plutarco Elías Calles i ddymchwel yr Arlywydd Carranza ym Mai 1920. Gwasanaethodd de la Huerta yn arlywydd dros dro Mecsico o 1 Mehefin i 30 Tachwedd 1920, gan ildio'r arlywyddiaeth i enillydd yr etholiad, Obregón, ar 1 Hydref.

Darllen pellach

golygu
  • Marjorie Becker, Setting the Virgin on Fire: Lázaro Cárdenas and the Redemption of the Mexican Revolution (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1995).
  • Katherine Elaine Bliss, Compromised Positions: Prostitution, Public Health, and Gender Politics in Revolutionary Mexico City (Philadelphia: Pennsylvania State University Press, 2002).
  • Adolfo Gilly, The Mexican Revolution: A People's History (Efrog Newydd: New Press, 2006).
  • Michael J. Gonzalez, The Mexican Revolution, 1910–1940 (Albuquerque: University of New Mexico Press, 2002).
  • Frank McLynn, Villa and Zapata: A Biography of the Mexican Revolution (Llundain: Jonathan Cape, 2000).
  • John Tutino, From Insurrection to Revolution in Mexico: The Social Bases of Agrarian Violence, 1750–1940 (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 1987).
  • Mary Kay Vaughan a Stephen E. Lewis (goln), The Eagle and the Virgin: National and Cultural Revolution in Mexico, 1920–1940 (Durham, Gogledd Carolina: Duke University Press, 2006).