La Reforma
Cyfnod yn hanes Mecsico o 1854 i 1876 oedd La Reforma a noder gan newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol rhyddfrydol dan arweiniad Benito Juárez. Cychwynnodd gyda datganiad Plan de Ayutla a alwai am ddymchwel yr unben Antonio López de Santa Anna. Yn sgil cwymp Santa Anna ym 1855, cafodd cymdeithas Mecsico ei rhyddfrydoli gan sawl deddf yn dileu'r fueros (breintiau arbennig yr eglwys a’r fyddin) a chyfansoddiad 1857.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad, deddfwriaeth |
---|---|
Gwladwriaeth | Mecsico |
Cafwyd gwrthryfel rhwng yr eglwys, y fyddin a thirfeddianwyr ceidwadol ym 1858–60. Llwyddodd y llywodraeth ryddfrydoli i ennill y rhyfel cartref ac i gymryd rhagor o diroedd, eiddo, a grym oddi ar yr eglwys. Ymdrechodd y llywodraeth i ailddosbarthu tir o'r cyfoethogion i'r tlodion, ond methodd y polisi yn llwyr.
Cafodd llywodraeth Juárez ei gyrchu gan luoedd Ffrengig ym 1862, a rhoddwyd yr Ymerawdwr Maximilian yn bennaeth ar Fescisco am gyfnod byr. Enciliodd y Ffrancod dan bwysau'r gwladgarwyr Mecsicanaidd a llywodraeth yr Unol Daleithiau. Cafodd Juárez ei ail-ethol yn arlywydd ym 1867 ac ym 1871, er yr oedd hynny yn erbyn y cyfansoddiad. Bu farw ym 1872, a chafodd ei olynu gan Sebastián Lerdo de Tejada. Cipiwyd grym gan Porfirio Díaz ym 1876, gan ddod â La Reforma i ben.