Geiriadur Spurrell

llyfr (gwaith)

Geiriadur Spurrell yw'r geiriadur cyfieithu Cymraeg / Saesneg - Saesneg / Cymraeg gorau ei werthiant o'r holl eiriaduron Cymraeg. Cyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o'r llyfr ym 1848. Er nad oes lawer yn gyffredin rhwng yr argraffiad cyntaf a'r argraffiad diweddaraf, roedd Collins Spurrell Welsh Dictionary dal mewn print yn 2019, dros 150 o flynyddoedd wedi ei argraffiad cyntaf.[1]

Geiriadur Spurrell
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, geiriadur cyfieithu Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Roedd William Spurrell (1813 - 1889), yn argraffydd a chyhoeddwr yn nhref Caerfyrddin. Roedd ei deulu yn hanu o Gaerfaddon ac yn un Anglicanaidd.[2] Fel ymateb i'r Adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, penderfynodd cyhoeddi llyfr byddai'n gymorth i Gymry Cymraeg dysgu sut i Siarad Saesneg. Cyhoeddwyd ei eiriadur ac esboniadur ar sut i ynganu'r fain ym 1848 sef:

An English-Welsh pronouncing dictionary, with preliminary observations on the elementary sounds of the English language, a copious vocabulary of the roots of English words, and a list of scripture proper names = Geiriadur Cynaniaethol Seisoneg a Chymraeg, yng nghyd a sylwadau rhagarweiniol ar seiniau egwyddorol yr iaith Seisoneg, llechres o'i gwreiddeiriau, a geirfa o enwau priodol ysgrythyrol. [3]

Ym 1853 cyhoeddodd Spurrell atodiad i'w Eiriadur i gyfieithu geiriau o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Geiriadur Bodfan golygu

Wedi marwolaeth William Spurrell etifeddwyd y wasg gan ei fab Walter Spurrell. Cyflogodd Walter John Bodfan Anwyl [4] i ddiwygio geiriadur ei dad. Argraffwyd diwygiadau Bodfan rhwng 1914 a 1916. Roedd adolygiad Anwyl o'r geiriadur yn cael ei adnabod fel Geiriadur Bodfan ar lawr gwlad. Cafwyd amryw argraffiadau o eiriadur Bodfan ar ôl yr argraffiad cyntaf ynghyd ag argraffiad poced o'r geiriadur (y cyntaf ym 1919). Bu Walter Spurrell farw 23 Ebrill 1934.

Collins Spurrell golygu

 

Prynodd cwmni Collins (Harper Collins, bellach) hawlfraint yr argraffiad poced a chyhoeddwyd ei argraffiad cyntaf o'r llyfr, o dan olygyddiaeth Henry Lewis o Brifysgol Abertawe ym 1960 fel y Collins Spurrell Welsh / English Dictionary. Mae gwahanol fersiynau o argraffiadau Collins o'r geiriadur poced dal mewn print ac yn gwerthu'n dda. [5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 9780008194826, Collins Spurrell Welsh Dictionary". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-10-24.
  2. "SPURRELL (TEULU), Caerfyrddin | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-24.
  3. Spurrell, William (1861). An English-Welsh pronouncing dictionary, with preliminary observations on the elementary sounds of the English language, a copious vocabulary of the roots of English words, and a list of scripture proper names - Geiriadur Cynaniaethol Seisoneg a Chymraeg, yng nghyd a sylwadau rhagarweiniol ar seiniau egwyddorol yr iaith Seisoneg, llechres o'i gwreiddeiriau, a geirfa o enwau priodol ysgrythyrol. Caerfyrddin.
  4. "ANWYL, JOHN BODVAN ('Bodfan'; 1875 - 1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-24.
  5. Beattie, Susie. Collins Spurrell Welsh dictionary. Glasgow. ISBN 9780008194826. OCLC 1000417159.