Nordrhein-Westfalen

Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Nordrhein-Westfalen (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen'). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Düsseldorf, prifddinas y dalaith, Cwlen, ei dinas fwyaf, Aachen, Bielefeld, Bonn, Bochum, Essen, Dortmund, Duisburg, Gelsenkirchen, Münster, Oberhausen, Paderborn a Wuppertal.

Nordrhein-Westfalen
ArwyddairGermany at its best Edit this on Wikidata
Mathtaleithiau ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNorth Rhine, Province of Westphalia Edit this on Wikidata
PrifddinasDüsseldorf Edit this on Wikidata
Poblogaeth17,932,651 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Awst 1946 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHendrik Wüst Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd34,112.52 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr45 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNiedersachsen, Hessen, Rheinland-Pfalz, Walonia, Limburg, Gelderland, Overijssel, Liège Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.47°N 7.55°E Edit this on Wikidata
DE-NW Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLandtag of North Rhine-Westphalia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Gweinidog-Lywydd Gogledd Rhine-Westphalia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHendrik Wüst Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

Mae Nordrhein-Westfalen yn cynnwys rhan ogleddol y Rheinland (Nordrhein) ac ardal Westfalen. Mae Afon Rhein ei hun yn rhannu'r ddwy ardal oddi wrth ei gilydd, Nordrhein yn y gorllewin, a Westfalen yn y dwyrain. Canol y dalaith yw ardal ddiwydiannol y Ruhr.

Hanes golygu

Crëwyd y dalaith gan y weinyddiaeth filwrol Brydeinig ym 1946 allan o rhan ogleddol yr hen Rheinprovinz (Talaith y Rhein) a thalaith Westfalen. Daeth y dalaith newydd â holl ardaloedd y Ruhr at ei gilydd. Gan fod y dalaith newydd o fewn parth meddiannol Prydain, roedd hyn yn sicrhau rheolaeth Prydain dros ardal ddiwydiannol fwya'r Almaen. Ychwanegwyd hen dalaith Lippe ati ym 1947. Mae'r ffiniau wedi aros yr un ers hynny.

Pobl nodedig a anwyd yn Nordrhein-Westfalen golygu

Cyfeiriadau golygu


Taleithiau ffederal yr Almaen  
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sacsoni | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.