Noord-Holland
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Noord-Holland ("Gogledd Holland"). Saif yng ngogledd-orllewin y wlad, ger yr arfordir, ac mae'n cynnwys ynys Texel. Roedd poblogaeth y dalaith yn 2006 yn 2.61 miliwn. Haarlem yw prifddinas y dalaith, ond Amsterdam yw'r ddinas fwyaf. Ceir maes awyr mwyaf yr Iseldiroedd, Schiphol yma hefyd.
Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Holand |
Prifddinas | Haarlem |
Poblogaeth | 2,813,466 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Ik houd van het groen in je wei |
Pennaeth llywodraeth | Arthur van Dijk |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Iseldiroedd |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 4,091.76 ±0.01 km² |
Gerllaw | Môr y Gogledd, Y Môr Wadden, IJsselmeer, Markermeer |
Yn ffinio gyda | Zuid-Holland, Utrecht, Flevoland, Fryslân |
Cyfesurynnau | 52.7°N 4.8°E |
NL-NH | |
Corff gweithredol | Provincial Executive of North Holland |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's Commissioner of North Holland |
Pennaeth y Llywodraeth | Arthur van Dijk |
Holland oedd y dalaith bwysicaf o Weriniaeth y Saith Iseldir Unedig. Ar ddechrau'r 19eg rhannwyd y dalaith yma yn Zuid-Holland a Noord-Holland.
Ffurfia'r rhan fwyaf o Noord-Holland benthyn rhwng y môr yn y gorllewin a'r Waddenzee a'r IJsselmeer yn y dwyrain.Yn y de, mae'n ddinio ar Zuid-Holland ac Utrecht, yn y dwyrain mae'r Houtribdijk a'r bont Hollandse Brug yn ei chysylltu a thalaith Flevoland tra yn y gogledd mae'r Afsluitdijk yn ei chysylltu a thalaith Fryslân
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |