Gemalto
Cwmni rhyngwladol sy'n cyflenwi gwasanaethau diogelwch gwybodaeth a cherdiau talu yw Gemalto. Ffurfiwyd y cwmni ym Mehefin 2006 trwy uno Axalto a Gemplus. Roedd derbyniadau'r cwmni yn 2012 yn 2.246 biliwn. Mae wedi'i gofrestru gyda Euronext Amsterdam a Euronext Paris[1] gyda'r symbol GTO Archifwyd 2013-09-04 yn archive.today. Ymhlith cwsmeriaid y cwmni mae dros 300 o fanciau mwya'r byd.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, payment service provider |
---|---|
Rhan o | CAC 40, AEX index |
Dechrau/Sefydlu | Mehefin 2006 |
Perchennog | Thales Group |
Aelod o'r canlynol | SIMalliance |
Isgwmni/au | Gemalto (yr Almaen), Gemalto (y DU), Gemalto (Israel), Gemalto (Ffrainc), Netsize |
Rhiant sefydliad | Thales Group |
Ffurf gyfreithiol | société anonyme à conseil d'administration s.a.i. |
Cynnyrch | cerdyn clyfar |
Pencadlys | Amsterdam |
Gwladwriaeth | Yr Iseldiroedd, Ffrainc |
Gwefan | https://www.gemalto.com/ |
Er mai yn Amsterdam mae'r pencadlys, ceir isgwmniau mewn sawl gwlad arall; yn Austin, Texas mae ei bencadlys yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddo dros 10,000 o weithwyr ledled y byd, 74 swyddfa marchnata a gwerthu, 15 ffatri, 28 canolfan staff ac 14 canolfan R&D a hynny mewn 43 o wledydd.[2]