Mynegai marchnad stoc safonol Ffrainc yw'r CAC 40 (Ffrangeg: CAC quarante, IPA: /kak.ka.ʁɑ̃t/). Daw ei enw o system awtomeiddio cynnar Bourse de Paris, sef Cotation Assistée en Continu. Mae'r mynegai yn cynrychioli mesur wedi'i bwyso yn ôl cyfaliaethiad o 40 uchaf o blith y 100 cap uchaf ar Bourse de Paris (a enwir heddiw yn Euronext Paris). Gyda BEL20 Brwsel, PSI-20 Lisbon ac AEX Amsterdam, mae'n un o brif fynegai y grŵp marchnad stoc pan-Ewropeaidd Euronext ac un o fynegai stoc mwyaf allweddol y byd.

CAC 40
Enghraifft o'r canlynolstock market index Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Rhagfyr 1987 Edit this on Wikidata
PerchennogEuronext Edit this on Wikidata
PencadlysLa Défense Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://live.euronext.com/fr/product/indices/FR0003500008-XPAR/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fe'i sefydlwyd yn 1987 ac mae ganddo "cap marchnad" o € 1.023 triliwn (2007). Mae'r cwmnïau ar y CAC yn cynnwys Air Liquide, y cwmni archfarchnadoedd Carrefour, Michelin, Renault a'r banc mawr Crédit Agricole.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.