Genedigaeth

afoam
(Ailgyfeiriad o Geni)

Y broses o ddod a epil i'r byd o'r fam yw genedigaeth (ŵyna neu bwrw llo mewn da byw a rhai anifeiliaid eraill).

Dynes yn rhoi genedigaeth i blentyn, tua 1515

Ystyron meddygol golygu

  • Genedigaeth plentyn yw'r broses ar ddiwedd beichiogrwydd dynol sy'n dod a babi i'r byd.
  • Genedigaeth naturiol yw'r dechneg o leihau ymyrriaeth meddygol, yn enwedig anaesthetigion yn ystod genedigaeth plentyn.
  • Genedigaeth heb gymorth yw'r term am enedigaeth plentyn heb gymorth meddygol proffesiynol.
  • Genedigaeth lluosol yw genedigaeth dau (efeilliaid), tri (tripledi), pedwar (pedrybledau) neu fwy o fabanod o ganlyniad un beichiogrwydd.
  • Toriad Caesarean yw genedigaeth llawfeddygol trwy fur yr abdomen.
  • Genedigaeth Lotus yw'r arfer o adael y cortyn wmbilig heb ei dorri wedi'r enedigaeth fel bod y baban yn dal ynghlwm i'r brych tan i'r cortyn wahanu'n naturiol.
  • Brych yw'r organ mewn rhanfwyaf o famaliaid, sy'n ffurfio yn leinin y groth gan uniad y bilen mwcaidd y groth gyda philenau'r ffoetws, dyma sy'n darparu maeth i'r ffoetws a gwaredu â'r cynnyrch gwastraff.
  • Ôl-ysgar yw'r broses o waredu'r corff o'r brych yn dilyn yr enedigaeth.
  • Bydwraig yw'r term am ddarparwr gofal iechyd sy'n rhoi gofal iechyd yn y cartref i famau sy'n disgwyl, sy'n esgor y babi yn ystod yr enedigaeth, ac yn darparu gofal postpartum.
  • Doula yw'r term am gynorthwyydd esgor sy'n darparu cefnogaeth emosiynol a chysur corfforol ac yn y blaen, i'r fam, partneriaid, teuluoedd a'r babi cyn, yn ystod ac wedi'r enedigaeth. Mae doula postpartum yn darparu cefnogaeth ôl-enedigaeth ar gyfer y fam a'r plentyn, megis gyda ymlymiad y plentyn a gofal arall ar gyfer banod sydd newydd eu geni. Daw'r term "doula" o'r Groeg "doulos", neu "yr un a wasanaethir".
 
Baban newydd ei eni mewn ysbyty.

Ystyron trosiadol golygu

Defnyddir y term genedigaeth yn drosiadol i gyfeirio at gychwyn neu ddechrau, yn arbennig ar gyfer rhyfeddodau naturiol, sy'n nodedig am ei faint neu ei gymlethdeb, neu a gysidrir i fod yn ffafriol.

Cyfeiriadau golygu

Chwiliwch am genedigaeth
yn Wiciadur.