Brych (anatomeg)
Organ yw brych (Lladin: placenta) a geir yn y rhan fwyaf o famaliaid ac sy'n ffurfio yn leinin y groth trwy uniad pilen mwcaidd y groth gyda philenau'r ffoetws. Dyma sy'n darparu maeth i'r ffoetws ac sy'n cael gwared â'r cynnyrch gwastraff. Ôl-ysgar yw'r broses o waredu'r corff o'r brych yn dilyn genedigaeth.
Enghraifft o'r canlynol | organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | endid anatomegol arbennig |
Label brodorol | Placenta |
Enw brodorol | Placenta |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd: brych (bioleg)
Fe'i ceir hefyd mewn rhai ymlusgiaid.
Yng ngeiriadur Cymraeg - Lladin Syr Thomas Wiliems y gwelir y gair 'brych' am y tro cyntaf, a hynny yn 1604.