Genogl Gogarth
Mae Genogl Ogof Kendrick yn asgwrn gên ceffyl wedi'i cherfio. Dyma yw gwaith celf hynaf Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | darganfyddiad archaeolegol, gwaith celf, mandibl dynol |
---|---|
Deunydd | asgwrn |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 8. CC |
Lleoliad | yr Amgueddfa Brydeinig |
Hanes
golyguMae'r genogl yn 13,000 o flynyddoedd oed ac felly'n deillio o Oes yr Iâ. Darganfuwyd y genogl ar fryn Pen y Gogarth, Llandudno, ym 1870 gan gloddiwr copr oedd wedi ymddeol, Thomas Kendrick. Cafodd sgerbydau tri oedolyn a pherson ifanc eu darganfod yn Ogof Kendrick hefyd.[1]
Nid yw'r enghraifft hwn o gelf hynaf Cymru[1] yn cael ei arddangos lle cedwir, yn yr Amgueddfa Brydeinig.[2]
Mae'r gên ceffyl sydd wedi'i dorri i ffwrdd o'r ên o flaen y dannedd molar ac mae gan y darn dri allan o bedwar o'r blaenddannedd. Mae ochr isaf y genogl wedi'i haddurno â phum panel o siafronau ac mae'n bosib bod y gwrthrych wedi'i osod gyda chladdedigaethau dynol a ddarganfuwyd ar y safle. Roedd olion o ocr coch (pigment tywod a phridd) ar y dannedd pan darganfyddwyd ond fe'i collwyd yn y broses o dynnu'r garreg brecia oddi ar ei wyneb. Fe wnaeth y glanhau hwn hefyd wynnu ymddangosiad yr asgwrn. Nid yw'r pigment ocr ar yr esgyrn dynol ond yn hytrach yn gorchuddio nifer o arteffactau eraill o'r safle yn fwriadol.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "'Celf hynaf Cymru' yn dychwelyd i Landudno". BBC Cymru Fyw. 2014-04-04. Cyrchwyd 2023-09-05.
- ↑ 2.0 2.1 "engraved antler/bone/ivory; portable art | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-05.