Geoparc yw darn o dir a ddiffinir gan UNESCO (1999) fel tiriogaeth sy'n cynnwys un neu fwy o safleoedd o bwysigrwydd gwyddonol mawr, nid yn unig oherwydd ei ddaeareg ond hefyd ei bwysigrwydd archaeolegol, ecolegol a diwylliannol.

Mae Geoparc yn arddangos technegau gwarchod treftadaeth ddaearegol ac o ddarparu addysg mewn daeareg a'r amgylchedd yn gyffredinol. Ceir rhwydwaith rhyngwladol ohonynt, ac mae cydweithrediad agos rhyngddynt.

Ceir dau Geoparc yng Nghymru, Geoparc y Fforest Fawr a GeoMôn (Geoparc Ynys Môn).

Cysylltiadau allanol golygu