Agor y brif ddewislen
Craig yng 'Ngerddi'r Duwiau' yn Colorado Springs, UDA.

Astudiaeth o'r ddaear ffisegol yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, "y ddaear" a λογος, sef logos, "gwyddoniaeth"). Mae'n cynnwys astudiaeth o greigiau solid a chramen y Ddaear. Gellir dyddio'r creigiau hyn, a rhennir hanes y ddaear yn gyfnodau daearegol. Gall y gair 'daeareg' hefyd gyfeirio at yr astudiaeth o greigiau a cherrig planedau a ffurfiau eraill yn y gofod e.e. daeareg y Lleuad.

Drwy'r maes hwn ceir cip cliriach o hanes y Ddaear; mae daeareg yn astudiaeth o dystiolaeth cynradd o blatiau tectonig, esblygiad bywyd ar y Ddaear a newid yn hinsawdd y Ddaear. Fe'i defnyddir hefyd yn yr astudiaeth o fwynau, eu cloddio a'u marchnata; felly hefyd gyda phetroliwm a hydrocarbonau eraill. Mae'r astudiaeth o ddŵr y môr a dŵr croyw hefyd yn seiliedig ar astudiaeth o'r maes hwn, yn ogystal â pheryglon naturiol daearyddol a phroblemau gyda'r amgylchedd.

Cynnwys

Ynysoedd PrydainGolygu

Mae daeareg Ynysoedd Prydain yn enwog am ei amrywiaeth gyfoethog o greigiau a cheir enghreifftiau o bron yr holl oedoedd daearegol o'r Archaean ymlaen.

Mae ymchwil seismograffig yn dangos bod crwst y Ddaear rhwng 27 a 35 km (17 i 22 milltir) o drwch. Mae'r creigiau hynaf i'w cael yng ngogledd orllewin yr Alban ac maent yn fwy na hanner oed blaned. Credir bod y creigiau hyn i'w cael hefyd, yn isel o dan llawer o Brydain - dim ond y cilometrau cyntaf y mae tyllau turio wedi eu treiddio. Gwelir yr un creigiau yn Llydaw, ac felly, credir eu bod yn rhedeg yn isel dan yr wyneb o'r ardal i Lydaw. Mae'r creigiau ieuengaf i'w cael yn ne-ddwyrain Lloegr.

CymruGolygu

Prif erthygl: Daeareg Cymru

Mae'r Cyfoeth Naturiol Cymru yn dewis safleodd pwysig er mwyn eu gwarchod ac yn eu rhestru ar yr Arolwg Cadwraeth Daearegol (ACD). Mae dau fath o safle sef Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig (SDRhP) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA). Hefyd mae UNESCO wedi dynodi dau GeoParc yng Nghymru sef Fforest Fawr a GeoMôn.

Mae Geoparc Fforest Fawr y tu mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Mae GeoMôn yn cynnwys Ynys Môn i gyd ar sail y ffaith fod Môn yn ynys tectonig. Ceir Creigiau hynaf y byd a elwyr yn Cyn-Cambriaidd ar Ynys Môn sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed hyd at y creigiau ieuengaf heblaw am greigiau yr oes Juraisg ac Oes y Calchfaen. Tiriogaeth sy’n cynnwys un neu fwy o leoliadau o bwysigrwydd gwyddonol , sydd o werth archeolegol ecolegol a diwylliannol yn ogystal a bod o ddiddordeb daearegol yw GeoParc. Mae yna dros 50 Geoparc yn Ewrop.

Rhaniadau yn yr Oes PalaeosoigGolygu

Mae'r tri rhaniad neu gyfnod wedi eu henwi ar ôl hynafiaethau Cymreig neu Geltaidd, sef y cyfnodau:

CyfeiriadauGolygu

Gweler hefyd: Daeareg Cymru
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am daeareg
yn Wiciadur.