George Cholmondeley, 3ydd Iarll Cholmondeley
Roedd George Cholmondeley, 3ydd Iarll Cholmondeley KB, PC (2 Ionawr, 1703 - 10 Mehefin, 1770) a adweinid fel Is-iarll Malpas rhwng 1725 a 1733, yn uchelwr Seisnig ac yn wleidydd Chwigaidd [1]
Cefndir
golyguRoedd Cholmondeley yn fab i George Cholmondeley, 2il Iarll Cholmondeley, ac Elizabeth van Ruyterburgh (neu Ruttenburg) ei wraig. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel Aelod Seneddol Dwyrain Looe ym 1724, sedd a ddaliodd hyd 1727, wedi hynny bu'n cynrychioli etholaeth Windsor rhwng 1727 a 1733, pan olynodd ei dad i'r bendefigaeth fel y trydydd Iarll Cholmondeley a derbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd ei benodi gan ei dad-yng-nghyfraith Syr Robert Walpole yn Arglwydd y Morlys 1727-1729, fel Arglwydd y Trysorlys 1735-1736 ac fel Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn 1736-1743 (o 1742 i 1743 o dan brif weinidogaeth Iarll Wilmington). O 1743-1744 gwasanaethodd hefyd fel Arglwydd y Sêl Gyfrin dan brif weinidogaeth Henry Pelham ac yn gyd Is-Drysorydd yr Iwerddon rhwng 1744 a 1757. Ym 1736 fe dderbyniwyd ef i'r Cyfrin Gyngor.
Gwasanaethodd yr Arglwydd Cholmondeley fel Arglwydd Raglaw Swydd Gaer a holl siroedd Gogledd Cymru (ac eithrio Sir Ddinbych) o 1733 i 1760.
Roedd yn weithgar yn yr ymdrech elusennol i greu cartref ar gyfer plant cael (Saes: foundling) - yn Llundain, a gobeithiwyd byddai'n lliniaru'r broblem o adael plant mewn llefydd cyhoeddus yn yr obaith y byddai rhywun yn eu canfod a gofalu amdanynt. O ganlyniad i'w ymdrechion sefydlwyd y Foundling Hospital a bu Cholmondeley yn un o'r aelodau cyntaf o'i ffwrdd reoli.
Teulu
golyguPriododd Arglwydd Cholmondeley a'r Ledi Mary Walpole, merch y Brif Weinidog Robert Walpole, Iarll 1af Orford, ym 1723.
Marwolaeth
golyguBu farw ym mis Mehefin 1770, yn 67 mlwydd. Bu ei fab hynaf George Cholmondeley, Is-iarll Malpas, marw o'i flaen ac olynwyd ef yn y teitlau gan ei wŷr George, a grëwyd yn Ardalydd Cholmondeley ym 1815.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cokayne, G.E.; Vicary Gibbs, H.A. Doubleday, Geoffrey H. White, Duncan Warrand and Lord Howard de Walden, editors. The Complete Peerage of England, Scotland, Ireland, Great Britain and the United Kingdom, Extant, Extinct or Dormant, new ed.. 13 volumes in 14. 1910-1959. Reprint in 6 volumes, Gloucester, U.K.: Alan Sutton Publishing, 2000.
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: 2il Iarll Cholmondeley |
Arglwydd Raglaw Môn 1733 - 1770 |
Olynydd: Nicholas Bayly, 2il Farwnig |
Rhagflaenydd: 2il Iarll Cholmondeley |
Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon 1733 - 1770 |
Olynydd: Thomas Wynn, Barwn 1af Niwbwrch |
Rhagflaenydd: 2il Iarll Cholmondeley |
Arglwydd Raglaw Sir y Fflint 1733 - 1770 |
Olynydd: Roger Mostyn, 5ed Barwnig |
Rhagflaenydd: 2il Iarll Cholmondeley |
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd 1733 - 1770 |
Olynydd: William Vaughan |
Rhagflaenydd: 2il Iarll Cholmondeley |
Arglwydd Raglaw Sir Drefaldwyn 1733 - 1770 |
Olynydd: Henry Herbert, Iarll 1af Powis |