George Griffith

esgob Llanelwy

Offeiriad o'r Penrhyn, Llandegai oedd George Griffith (30 Medi 160128 Tachwedd 1666). Ei rhieni oedd Anne Griffith a Robert Griffith.

George Griffith
George Griffith DD, Bp of St Asaph.jpg
Ganwyd1601 Edit this on Wikidata
Llandygái Edit this on Wikidata
Bu farwTachwedd 1666 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata

CefndirGolygu

Aeth Griffith i Ysgol Westminster ac wedyn i Rydychen, Christ Church; M.A. 1626, D.D. 1635. O dan arweiniad John Owen, esgob Llanelwy, tad-yng-nghyfraith ei frawd William, roedd yn gaplan, canon, rheithor y Dref Newydd. Erbyn 1633 fe aeth o Dref Newydd a dod yn rheithor yn Llanymynech a Llandrinio. Yng nghonfocasiwn 1640 dywedir ei fod wedi pwysleisio'r angen o gael argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg.[1]

FfynonellauGolygu

  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914), 26;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series, 1636-7, 569;
  • Llawysgrif Rawlinson yn Llyfrgell Bodlean, Rhydychen c. 261 (18) (reprint);
  • Lambeth MS 997, i, 66;
  • Llawysgrif Tanner cxlvi, 2, 3;
  • Llawysgrifau Dolben 302/89, 114, 304b/31-2, 305/19-;
  • Lambeth MS 639 (303);
  • Y Cymmrodor, xxxviii (1927), 151-2, 168-9.

CyfeiriadauGolygu

  1. "GRIFFITH, GEORGE (1601 - 1666), esgob Llanelwy o 1660 hyd 1666 | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.