Llanymynech

pentref ym Mhowys ac yn Swydd Amwythig

Pentref ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Llanymynech,[1] tua hanner y ffordd rhwng Croesoswallt a'r Trallwng, ger glan Afon Efyrnwy. Saif hanner gorllewinol y pentref yng nghymuned Carreghwfa ym Mhowys, tra mae'r hanner dwyreiniol ym mhlwyf sifil Llanymynech and Pant yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Canolfan Ymwelwyr Cei Llanymynech
Llanymynech
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlanymynech and Pant, Carreghwfa
Daearyddiaeth
SirPowys
Swydd Amwythig
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.781°N 3.089°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ266209 Edit this on Wikidata
Map

Pan oedd yr hen Sir Drefaldwyn yn cau'r tafarnau ar y Sul, roedd tafarn yn Llanymynech, y Lion, sydd yn awr wedi cau, lle roedd un bar, yng Nghymru, ar gau ar y Sul, a'r bar arall, yn Lloegr, ar agor. Yng Nghlwb Golff Llanymynech y dechreuodd Ian Woosnam chwarae golff. Roedd y peiriannydd diwydiannol Richard Roberts yn enedigol o'r pentref.

Saif Bryngaer Llanymynech tua tri-chwarter kilometr i'r gogledd-ddwyrain.

Mae Camlas Trefaldwyn yn pasio trwy'r pentref. Ar un adeg oedd yno gorsaf reilffordd. Oedd hon ar Reilffordd y Cambrian ac hefyd Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat, yn ffurfio cyffwrdd rhwng y ddwy.[2] .

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu