George Jackson Churchward
Peiriannydd o Loegr oedd George Jackson Churchward (31 Ionawr 1857 – 19 Rhagfyr 1933) a oedd yn Brif Beiriannydd Mecanyddol Rheilffordd y Great Western rhwng 1902 a 1922.
George Jackson Churchward | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1857 Stoke Gabriel |
Bu farw | 19 Rhagfyr 1933 Swindon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | CBE |
Ganwyd Churchward yn Stoke Gabriel, Dyfnaint.[1]
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, gweithiodd dros Reilffordd De Swydd Dyfnaint. Pan daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western, gweithiodd o o dan William Dean, yn gyntaf fel adolygwr nwyddau, wedyn cynorthwyydd i reolwr y gweithdy cerbydau, ac wedyn cymerodd drosodd fel rheolwr. Symudodd o i waith ar locomotifau ym 1895, ac ym 1897 daeth o'n cynorthwyydd i William Dean. Datblygodd o gynllun gwreiddiol Dean o'r dosbarth 'City' 4-4-0, a dywedir bod City of Truro wedi cyrraedd 100 milltir yr awr yn 1904, y locomotif cyntaf i'w wneud. Cynlluniodd o locomotifau mwy i'r rheilffordd, yn defnyddio trefniant olwynion 4-6-0 am y tro cyntaf, yn dechrau yn Chwefror 1902. Cyflwynodd o safoniad i rannau locomotifau, yn benodol efo boeler y locomotif. O 1908 ymlaen adeiladwyd locomotifau i gyd y rheilffordd yn Swindon a daeth y gweithdy yn ddwywaith y maint yn ystod cyfnod Churchward. Anfonodd o peirianwyr dramor er mwyn iddyn nhw ddysgu o reilffyrdd eraill. Roedd Churchward ei hyn wedi astudio locomotifau o America a Ffrainc..[1][2]
Daeth yn faer Swindon ym 1900.
Lladdwyd Churchward gan drên Paddington - Abergwaun ar 19 Rhagfyr 1933.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Gwefan greatwestern.org.uk
- ↑ 2.0 2.1 "Gwefan swindonweb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-09-08.