William Dean
Peiriannydd o Loegr oedd William Dean (8 Ionawr 1840 – 4 Medi 1905). Daeth yn Brif Beiriannydd Locomotifau i Reilffordd y Great Western ym 1877, ac ymddeolodd ym 1902.[1]
William Dean | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1840 |
Bu farw | 4 Medi 1905 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Cyflogwr |
Cafodd Dean ei addysg yn Ysgol Cwmni Haberdashers, a daeth o'n brentis dros gyfnod o 8 mlynedd yng Ngwaith Heol Stafford, Wolverhampton, gweithdy gogleddol y Great Western. Daeth o'n brif gynorthwyydd i Joseph Armstrong yn Ngwaith Swindon ym 1868. Daeth o'n brif beiriannydd wedi marwolaeth Armstrong. Cynlluniodd sawl dosbarth enwog o locomotifau, megis y dosbarthiadau 'Duke', 'Bulldog' a 'Dean Goods'.[2] Roedd o'n hoff o arbrofi, efo mathau arbrofol o locomotifau a hefyd efo defnydd o fetalau. Yn ystod ei gyfnod, roedd y rheilffordd ynghanol newid o draciau lled llydan i led safonol, felly adeiladodd o nifer o locomotifau a cherbydau newidiadwy.[1] Cynlluniodd y cerbydau coridor cyntaf.[3]
Bu farw yn Folkestone.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Gwefan Archif y Great Western
- ↑ Gwefan Grace's Guide
- ↑ "Gwefan Swindonweb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-07-27.