Henry Paget, 7fed Ardalydd Môn
milwr, hanesydd, cadwraethwr
(Ailgyfeiriad o George Paget, 7fed Ardalydd Môn)
Arglwydd Prydeinig oedd George Charles Henry Victor Paget, 7fed Ardalydd Môn (8 Hydref 1922 – 13 Gorffennaf 2013).[1] Mynychodd Ysgol Eton a gwasanaethodd yn y Gwarchodlu Ceffylau Brenhinol (y Gleision) yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ddyrchafu'n uwchgapten ym 1946. Daeth yn Ardalydd Môn ym 1947 pan fu farw ei dad, Charles Paget. Roedd hefyd yn llenor ac yn hanesydd milwrol, ac mae ei gampwaith A History of the British Cavalry yn adrodd mewn wyth cyfrol hanes marchfilwyr y Fyddin Brydeinig o 1816 hyd 1919.
Henry Paget, 7fed Ardalydd Môn | |
---|---|
Ganwyd | 8 Hydref 1922 |
Bu farw | 13 Gorffennaf 2013 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, pendefig |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Charles Paget |
Mam | Marjorie Paget |
Priod | Shirley Paget |
Plant | Henrietta Paget, Charles Paget, 8fed ardalydd Môn, Elizabeth Paget, Rupert Paget, Amelia Paget |
Gwobr/au | Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Obituary: The 7th Marquis of Anglesey. The Daily Telegraph (15 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Brydeiniwr neu Brydeinwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.