George Steiner

llenor Americanaidd (1929-2020)

Beirniad llenyddol, ysgrifwr, academydd, a nofelydd o'r Unol Daleithiau o dras Awstriaidd-Iddewig, a gafodd ei eni a'i fagu yn Ffrainc, oedd Francis George Steiner (23 Ebrill 19293 Chwefror 2020). Mae ei waith yn ymdrin â'r berthynas rhwng llenyddiaeth a chymdeithas, iaith ac ieithyddiaeth, athroniaeth, ac hanes modern. Oherwydd ei feistrolaeth ar feysydd eang o wybodaeth, fe'i gelwir yn aml yn bolymath. Roedd ganddo werthfawrogiad traddodiadgarol o ganon y Gorllewin a bu'n lladd ar ddamcaniaethau beirniadol megis y Feirniadaeth Newydd, ôl-adeileddaeth, a dadadeiladaeth. Yn ogystal â'i gyfrolau academaidd, astudiaethau llenyddol, a chasgliadau o ysgrifau, cyhoeddodd Steiner un nofel fer a thair chyfrol o straeon byrion.

George Steiner
GanwydFrancis George Nathaniel Steiner Edit this on Wikidata
23 Ebrill 1928 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Bu farw3 Chwefror 2020 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, nofelydd, cyfieithydd, academydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, llenor, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amAfter Babel Edit this on Wikidata
PriodZara Steiner Edit this on Wikidata
PlantDavid Steiner, Deborah Steiner Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Cymrodoriaeth Guggenheim, Princess of Asturias Award for Communications and Humanities, Alfonso Reyes International Prize, Today Prize, Doethuriaeth er Anrhydedd Prifysgol Girona, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, Honorary doctor of the University of Liège, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Durham, Honorary doctor of the University of Bologna, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Ludwig-Börne, Ysgoloriaethau Rhodes, honorary doctor of the University of Bristol, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, honorary doctorate of the University of Salamanca, honorary doctor of the University of Lisbon, Honorary doctorate Paris Descartes University Edit this on Wikidata

Ganed Francis George Steiner ym Mharis ar 23 Ebrill 1929. Iddewon a ymfudasant o Fienna yn 1924 oedd ei rieni, Elsie Steiner, Franzos gynt, a'r banciwr buddsoddiadau Frederick George Steiner o Awstria. Yn ôl ei hunangofiant Errata, cafodd genedigaeth George Steiner ei chynorthwyo gan Carl Weiss, yr un meddyg a saethodd y gwleidydd Americanaidd Huey Long yn 1935.[1]

Cafodd ei fagu'n rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, a Saesneg. Symudodd gyda'i deulu i Unol Daleithiau America yn 1940 ychydig wythnosau cyn cwymp Ffrainc. Yn Efrog Newydd, mynychodd George y Lycée Français. Cafodd ei wneud yn ddinesydd Americanaidd yn 1944, ac enillodd ei fagloriaeth Ffrengig (le baccalauréat) yn 1947. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Chicago yn 1948 a'i radd meistr o Harvard yn 1950. Enillodd Ysgoloriaeth Rhodes i Goleg Balliol, Rhydychen. Gwrthodwyd cyflwyniad cyntaf ei ddoethuriaeth yno.[1]

Treuliodd ei yrfa yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Bu'n aelod o staff golygyddol The Economist o 1952 i 1956, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen o'r diwedd yn 1955. Gweithiodd yn Sefydliad Uwchefrydiau Prifysgol Princeton o 1956 i 1958,[2] a fe'i penodwyd yn ddarlithydd Christian Gauss yn Princeton o 1959 i 1960.[1] Addysgodd yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, Prifysgol Genefa, ac Harvard.[2] Steiner oedd uwch-olygydd llyfrau The New Yorker o 1966 i 1997. Yn 1981 cyhoeddwyd ei nofel fer The Portage to San Cristóbal of A.H., stori sydd yn dychmygu bywyd Adolf Hitler wedi iddo oroesi'r Ail Ryfel Byd.

Priododd George Steiner â Zara Alice Shakow yn 1955, a chawsant un mab, David, ac un ferch, Deborah. Bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn 90 oed.[1]

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Beirniadaeth ac astudiaethau llenyddol ac ieithyddol

golygu
  • Tolstoy or Dostoevsky: An Essay in the Old Criticism (1959).
  • The Death of Tragedy (Llundain: Faber and Faber, 1961).
  • Language and Silence (1967).
  • Extraterritorial (1971).
  • In Bluebeard’s Castle: Some Notes Towards the Redefinition of Culture (1971).
  • After Babel: Aspects of Language and Translation (1975).
  • On Difficulty, and Other Essays (1978).
  • Martin Heidegger (1979).
  • Antigones (1984).
  • Real Presences (1989).
  • Grammars of Creation (1990). Cyfrol o'i ddarlithoedd Gifford a draddodai ym Mhrifysgol Glasgow.
  • No Passion Spent: Essays 1978–1995 (1996).

Nofelau a straeon byrion

golygu
  • Anno Domini (1964).
  • The Portage to San Cristóbal of A.H. (1981).
  • Proofs and Three Parables (1992).
  • The Deeps of the Sea and Other Fiction (1996).

Hunangofiant at atgofion

golygu
  • Errata: An Examined Life (1997).
  • My Unwritten Books (2008).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Christopher Lehmann-Haupt a William Grimes, "George Steiner, Prodigious Literary Critic, Dies at 90", The New York Times (3 Chwefror 2020). Adalwyd ar 5 Chwefror 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) George Steiner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Chwefror 2019.