Twyber Travers

Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig
(Ailgyfeiriad o George Travers)

Roedd George "Twyber" Travers (9 Mehefin 1877 - 26 Rhagfyr 1945) yn fachwr rhyngwladol o Gymru a chwaraeodd rygbi clwb ar gyfer Pill Harriers a Chlwb Rygbi Casnewydd. Enillodd 25 cap dros Gymru rhwng 1903 a 1911.[1]

Twyber Travers
Ganwyd9 Mehefin 1877 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1945 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Pill Harriers, Clwb Rygbi Casnewydd Edit this on Wikidata
SafleBachwr (rygbi) Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Travers yng Nghasnewydd yn fab i Mathew Travers, labrwr yn y dociau a Louisa Anne (née Gearey). Cafodd ei addysgu yn Ysgol Eglwys y Drindod, Casnewydd.

Gan fod rygbi ar y pryd yn gêm gwbl amatur, roedd raid i chwaraewyr gweithio tu allan i'r maes chwaraeon i ennill cyflog. Roedd Travers yn gweithio fel naddwr glo.[2]

Ym 1903 priododd Annie Louisa Trump. Bu iddynt o leiaf dwy ferch ac wyth mab. Ym mysg y meibion oedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol William H. (Bunner) Travers a chwaraewyr Casnewydd Jack, Chris a Reg Travers [3]

Gyrfa Rygbi golygu

Roedd Travers yn chwarae rygbi clwb, yn wreiddiol, fel rhan o dîm Pill Harriers, a oedd yn gysylltiedig â Dociau Casnewydd [4]. Treiliodd dwy dymor gyda Chasnewydd yn nhymhorau 1901/02 a 1910/11, bu hefyd yn chware am gyfnod i dîm Aberpennar.

Mae Travers yn cael ei gydnabod fel un o fachwyr arbenigol cyntaf i chware rygbi'r undeb. Roedd arbenigedd mewn safle blaenwr yn anarferol yn ystod hanes cynnar rygbi, yn bennaf oherwydd y rheolau parthed sgrymio. Roedd gallu Travers yn safle'r bachwr yn disgleirio ac fel rhan o'r pac [5] saith dyn yn chware rhan blaenllaw ym muddigoliaeth Cymry yn erbyn Lloegr ym 1903 ac yn erbyn y Crysau Duon ym 1905.

Gyrfa ryngwladol golygu

Enillodd Travers ei gap gyntaf dros Gymru fel canolwr mewn gem yn erbyn Lloegr ym mis Ionawr, 1903 pan oedd yn chware i'r Pill Harriers. Byddai Travers yn chwarae i Gymru 24 gwaith arall gan gynnwys gemau yn erbyn y Crysau Duon gwreiddiol o Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia. Ym 1908, cafodd Travers ei godi'n gapten Cymru yn erbyn yr Alban yn Abertawe, gêm a enillwyd gan Gymru 6-5, ond yr unig dro iddo fod yn gapten. Yr unig bwyntiau rhyngwladol iddo sgorio oedd yn erbyn Wallabies Awstralia, mewn gêm a enillwyd gan Gymru 9-6. Mae wedi cael ei gydnabod yn ddiweddarach, gan y ddwy ochr, fod Travers wedi gollwng y bêl cyn mynd dros y llinell ac ni ddylai'r cais wedi ei roi.

Ymddangosiadau Rhyngwladol golygu

Chwaraeodd Travers dros Gymru yn erbyn:

Cyfeiriadau golygu

  1. ESPN Rugby George Travers adalwyd 17 Tachwedd 2018
  2. WALES TEAM VISIT BIG PIT WRU News adalwyd 17 Tachwedd 2018
  3. History of Newport RFC William H. (Bunner) Travers adalwyd 17 Tachwedd 2018
  4. Pill Harriers RFC History Early Years adalwyd 17 Tachwedd 2018
  5. "THEWELSHPACK - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-01-18. Cyrchwyd 2018-11-17.

Llyfryddiaeth golygu

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
  • Jones, Peter (2016). Newport Rugby Greats. Amberley Publishing Limited.
  • Richards, Huw (2014). The Red & The White: A History of England vs Wales Rugby. Aurum Press.