Geraint Evans (awdur)
Awdur ac academydd o Gymro
Nofelydd Cymreig yw Geraint Evans, sy'n adnabyddus am ei ffuglen dditectif. Fe'i fagwyd ger Rhydaman, ac mae e'n byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion. Bu'n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, ac yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn (1997–2003). Dechreuodd ysgrifennu ffuglen ar ôl ymddeol o'r byd academaidd. Lleolir y mwyafrif o'i nofelau yn Aberystwyth a'r cylch.
Geraint Evans | |
---|---|
Ganwyd | Llandybïe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, academydd |
Llyfryddiaeth
golygu- Y Llwybr (Y Lolfa, 2009)
- Llafnau (Y Lolfa, 2010)
- Nemesis (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2011)
- Diawl y Wasg (Y Lolfa, 2013)
- Y Gelyn Cudd (Y Lolfa, 2015)
- Y Gosb (Y Lolfa, 2016)
- Digon i'r Diwrnod (Y Lolfa, 2018)