Llandybïe

pentref a chymuned yn Sir Gaernarfon

Pentref diwydiannol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandybïe[1] (hefyd Llandybie;[2] weithiau hefyd Llandebie). Mae'n un o'r pentrefi mwyaf yn y sir. Sir ger Rhydaman. Mae Gorsaf reilffordd Llandybïe ar llinell Rheilffordd Calon Cymru.

Llandybïe
Llandybie Church.jpg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.82°N 4°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN617154 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[3][4]

HanesGolygu

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys yn Llandybïe gan y Santes Dybïe (Tybïe), un o blant niferus Brychan, brenin Brycheiniog.

Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybïe gan y brodyr Aneirin Talfan Davies ac Alun Talfan Davies yn 1940.

Mae'n gartref i Gôr Meibion Llandybïe.

Cymuned LlandybïeGolygu

Mae ardal Cyngor Cymuned Llandybïe yn fawr hefyd, gydag 8,700 o drigolion - dros 6,000 ohonynt yn Gymraeg eu hiaith - ac yn cynnwys pentrefi Saron, Blaenau, Cae'r-bryn, Cwmgwili, Pen-y-banc, Capel Hendre, Pentregwenlais a Phen-y-groes.

AddysgGolygu

Lleolir Ysgol Gynradd Llandybïe yn y pentref. Mae'n ysgol ddwyieithog.

Eisteddfod GenedlaetholGolygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie ym 1944. Am wybodaeth bellach gweler:

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Hydref 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolenni allanolGolygu