Tal-y-bont, Ceredigion
Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Tal-y-bont[1] (hefyd Talybont). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r de-orllewin a Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned Ceulan-a-Maesmor.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4803°N 3.9794°W ![]() |
Cod OS | SN654893 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
- Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Tal-y-bont.
Saif ar lan Afon Leri a'r Afon Ceulan yn ardal Genau'r Glyn, wrth droed bryn Ceulan Maes-mawr (383m).
Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[2][3]
HanesGolygu
Mae nifer o hen feini arian, plwm a melinau gwlan yn amgylchynu'r pentref. Er i arian a phlwm cael eu cloddio yno ers adeg y Rhufeiniaid, tyfodd y pentref yn gyflym tuag at ddiwedd y 19g ac adeiladwyd nifer o'r terasau yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer y gweithwyr a fewnfudodd i'r ardal. Mae nifer o'r tai, gan gynnwys y Fferyllfa yn adeiladau rhestredig ac felly'n dal i gadw nifer o nodweddion gwreiddiol deiniadol megis ffenestri ddalennog. Dim ond 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont yn 1835, bythynod to gwellt oedd y rhan fwyaf o'r rhain.
Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc a dau capel ac eglwys yn y pentref; adeiladwyd y Tabernacl yn 1812, ac Eglwys Dewi Sant yn 1909, mae hefyd Bethel, Capel yr Annibynwyr. Mae Neuadd Goffa er mwyn cofio'r rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, agorwyd yn swyddogol ar 6 Awst 1924,[4] ni chaniateir yfed alcohol yn yr adeilad hwn. Cynhelir Ffair y Neuadd yn flynyddol ar ddiwedd pob mis Tachwedd.
HeddiwGolygu
Ers 1966 mae'r pentref wedi bod yn gartref i wasg Y Lolfa, a dyfodd yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae garej dal i fod yn y pentref yn ogystal â siop torri gwallt, feryllfa a siop fach 'Spar', sydd â cyfleusterau swyddfa bost ynddi. Datganwyd ym mis Hydref 2007, fod y swyddfa bost ar y rhestr o'r rhai sydd yn bwriadu cael eu cau, a credwyd y byddai'r siop yn anhebyg o allu ennill bywoliaeth heb allu cynnig gwasanaethau post.[5] Datganwyd ym mis Awst 2009 i'r swyddfa gael ei hachub wedi cryn ymgyrchu.[6]
Mae dwy dafarn yn Nhal-y-bont, Y Llew Gwyn a'r Llew Du. Delir sioe amaethyddol Tal-y-bont yn hen gaeau'r Llew Du yn flynyddol hyd heddiw. Mae'r tafarnau wedi dioddef cyfnod o newid dros yr ugain mlynedd diwethaf gan newid dwylo nifer o weithiau, yn bennaf gan cyn-drigolion o Lerpwl a Birmingham yn dilyn y freuddwyd o symud i'r wlad a rhedeg tafarn. Erbyn 2007, roedd y Llew Du a'r Llew Gwyn wedi dychwelyd i ddwylo trigolion lleol.[7]
AddysgGolygu
Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont yng ngogledd y pentref, mae'n ysgol Gymraeg sydd â tua 100 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Mae hefyd ysgol feithrin rhan amser sy'n cymryd plant iau, a chylch Ti a Fi pob prynhawn dydd Gwener.[8]
DiwylliantGolygu
Mae gan y pentref Gymdeithas yr Henoed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a changen Plaid Cymru.
Mae papur bro Papur Pawb sy'n gweinyddu ardal Tal-y-bont, Taliesin a Tre'r Ddôl, yn cael ei olygu a'i argraffu yn y pentref.
Pobl o Dal-y-bontGolygu
- James Spinther James (1837-1914), hanesydd, llenor ac emynydd.
- J. J. Williams (bardd)
- Ruth Jên, arlunydd a baentiodd murlun adnabyddus y Lolfa.
- Mihangel Morgan, nofelydd
OrielGolygu
LlifogyddGolygu
Mae'r afon Leri yn torri ei glannau yn rheolaidd ac efallai yn gynyddol:
- A small woollen factory ...owned by one Wm Rees. Made flannel. A great flood in the Leri in 1870 swept away the factory. No lives were lost. The sudden flood was caused by a cloud-burst higher in the valley".
Yn anffodus y flwyddyn yn unig a gofnodir.[9]
A dyma dirlithriad diweddar yn yr un ardal uwchben ffermdy Nant y Nôd, yng Nghwm Ceulan[10], ar y ffordd i gronfa ddŵr Nant y Moch yn ystod glaw mawr 9 Mehefin eleni. Oherwydd y llifogydd a ddilynodd, daeth pentref Talybont, y pentref islaw, i sylw weddill Prydain.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 17 Rhagfyr 2019
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Welsh Gazette, 7 Awst 1924
- ↑ Y Siop, Hydref 2007
- ↑ Post: Achub cangen?. Newyddion BBC (17 Awst 2009).
- ↑ Y Llew Du. Papur Pawb (Hydref 2007).
- ↑ Mudiad Ysgolion Meithrin.
- ↑ Dai Thorne, cys. pers.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 56
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan tal-y-bont.org Archifwyd 2009-06-17 yn y Peiriant Wayback.
- gwefan y papur bro, Papur Pawb
Trefi
Aberaeron ·
Aberteifi ·
Aberystwyth ·
Ceinewydd ·
Llanbedr Pont Steffan ·
Llandysul ·
Tregaron
Pentrefi
Aberarth ·
Aber-banc ·
Aber-ffrwd ·
Abermagwr ·
Abermeurig ·
Aberporth ·
Adpar ·
Alltyblaca ·
Betws Bledrws ·
Betws Ifan ·
Betws Leucu ·
Bethania ·
Beulah ·
Blaenannerch ·
Blaenpennal ·
Blaenplwyf ·
Blaenporth ·
Y Borth ·
Bow Street ·
Bronant ·
Bwlch-llan ·
Capel Bangor ·
Capel Cynon ·
Capel Dewi ·
Capel Seion ·
Caerwedros ·
Castellhywel ·
Cellan ·
Cilcennin ·
Ciliau Aeron ·
Clarach ·
Cnwch Coch ·
Comins Coch ·
Cribyn ·
Cross Inn (1) ·
Cross Inn (2) ·
Cwm-cou ·
Cwmystwyth ·
Cwrtnewydd ·
Dihewyd ·
Dôl-y-bont ·
Eglwys Fach ·
Felinfach ·
Y Ferwig ·
Ffair-rhos ·
Ffostrasol ·
Ffos-y-ffin ·
Ffwrnais ·
Gartheli ·
Goginan ·
Y Gors ·
Gwbert ·
Henfynyw ·
Henllan ·
Horeb ·
Llanafan ·
Llanarth ·
Llanbadarn Fawr ·
Llandre ·
Llandyfrïog ·
Llanddeiniol ·
Llanddewi Brefi ·
Llanfair Clydogau ·
Llanfarian ·
Llanfihangel y Creuddyn ·
Llangeitho ·
Llangoedmor ·
Llangrannog ·
Llangwyryfon ·
Llangybi ·
Llangynfelyn ·
Llangynllo ·
Llanilar ·
Llanio ·
Llan-non ·
Llanrhystud ·
Llansantffraid ·
Llanwenog ·
Llanwnnen ·
Llechryd ·
Lledrod ·
Llundain-fach ·
Llwyncelyn ·
Llwyndafydd ·
Llwyn-y-groes ·
Morfa ·
Mwnt ·
Nanternis ·
Penbryn ·
Penparc ·
Penrhiwllan ·
Penrhyn-coch ·
Penuwch ·
Pen-y-garn ·
Plwmp ·
Pontarfynach ·
Ponterwyd ·
Pontgarreg ·
Pontrhydfendigaid ·
Pontrhydygroes ·
Pont-Siân ·
Rhydlewis ·
Rhydowen, Ceredigion ·
Rhydyfelin ·
Rhydypennau ·
Salem ·
Sarnau ·
Southgate ·
Swyddffynnon ·
Synod Inn ·
Talgarreg ·
Tal-y-bont ·
Temple Bar ·
Trefenter ·
Trefilan ·
Tremain ·
Tre-saith ·
Tre Taliesin ·
Troedyraur ·
Ysbyty Ystwyth ·
Ystrad Aeron ·
Ystrad Meurig ·
Ystumtuen