Geraint H. Jenkins

hanesydd, academydd (1946-2025)

Hanesydd o Gymru oedd yr Athro Geraint Huw Jenkins (24 Ionawr 19467 Ionawr 2025). Roedd e'n "un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru dros yr hanner canrif diwethaf".[1]

Geraint H. Jenkins
GanwydGeraint Huw Jenkins Edit this on Wikidata
24 Ionawr 1946 Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 2025 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Cafodd ei fagu ym Mhenparcau a bu'n byw ym Mlaenplwyf, Ceredigion am flynyddoedd. Bu'n Athro a phennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth cyn ei benodi'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993. O 1993 hyd 2007 bu’n Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ymddeolodd ym mis Medi 2008 ac fe'i gwnaed yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru.[2]

Roedd ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.

Cyhoeddiadau

golygu

Golygydd cyfres

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ymateb y Coleg Cymraeg i farwolaeth Yr Athro Geraint H. Jenkins". Coleg Cymraeg. 8 Ionawr 2025. Cyrchwyd 9 Ionawr 2025.
  2. "Yr hanesydd Geraint H Jenkins wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2025-01-08. Cyrchwyd 2025-01-08.