Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd

(Ailgyfeiriad o Bwrdd Gwybodau Celtaidd)

Sefydlwyd Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd gan Brifysgol Cymru yn 1921 er mwyn hyrwyddo a chyfundrefnu Astudiaethau Celtaidd (Gwybodau Celtaidd) yng Nghymru.

Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1921 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata

Hanes a threfn golygu

Roedd y penderfyniad i sefydlu'r Bwrdd yn dilyn esiampl yr Ysgol Ysgolheictod Gwyddelig a sefydlwyd yn ninas Dulyn yn 1903 ac Adroddodiad y Comisiwn Brenhinol ar Addysg yng Nghymru 1918. Ffurfwyd tri phwyllgor i rannu'r gwaith, sef y Pwyllgor Iaith a Llên, Hanes a Chyfraith ac Archaeoleg a Chelfyddyd. Ychwanegwyd Pwyllgor Gwyddor Cymdeithas yn 1969.

Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Bwrdd yn staff academaidd ym mhrifysgolion Cymru. Roedd y Bwrdd yn cyhoeddi nifer o lyfrau a sawl cylchgrawn, yn cynnwys Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, yn Gymraeg a Saesneg, a lawnsiwyd yn 1921.

Prosiect mwyaf uchelgeisiol y Bwrdd efallai yw Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol safonol y Gymraeg.

Yn 2007 penderfynwyd diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo ei gyfrifoldebau i ddau gorff arall, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth a Gwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

Cylchgronau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.