Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb
llyfr
Cyfrol sy'n ymdrin â sefyllfa'r iaith yn y cyfnod rhwng y Deddfau Uno a dechrau'r Chwyldro Diwydiannol yw Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb: Yr Iaith Gymraeg Cyn y Chwyldro Diwydiannol, a olygwyd gan Geraint H. Jenkins. Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1997. Yn 2021 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | Geraint H. Jenkins |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1997 |
Pwnc | Hanes y Gymraeg |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780708314111 |
Cyfres | Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg |
Disgrifiad byr
golyguMae'r llyfr, a oedd yn gyfrol gyntaf yng nghyfres Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (1997–2000), yn cynnwys deuddeg pennod yn ymdrin â sefyllfa'r iaith yn y cyfnod rhwng y Deddfau Uno (1536 a 1542) a dechrau'r Chwyldro Diwydiannol.
- Llinos Beverley Smith, "Yr Iaith Gymraeg cyn 1536"
- Geraint H. Jenkins, Richard Suggett ac Eryn M. White, "Yr Iaith Gymraeg yn y Gymru Fodern Gynnar"
- Peter R. Roberts, "Deddfwriaeth y Tyduriaid a Statws Gwleidyddol 'yr Iaith Frytanaidd'"
- Richard Suggett, "Yr Iaith Gymraeg a Llys y Sesiwn Fawr"
- J. Gwynfor Jones, "Yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Ustusiaid Heddwch a'r Llysoedd Chwarter c.1536–1800"
- Glanmor Williams, "Unoliaeth Crefydd neu Unoliaeth Iaith? Protestaniaid a Phabyddion a'r Iaith Gymraeg 1536–1660"
- Eryn M. White, "Yr Eglwys Sefydledig, Anghydffurfiaeth a'r Iaith Gymraeg"
- William P. Griffith, "Dysg Ddyneiddiol, Addysg a'r Iaith Gymraeg 1536–1660"
- Eryn M. White, "Addysg Boblogaidd a'r Iaith Gymraeg 1650–1800"
- R. Geraint Gruffydd, "Yr Iaith Gymraeg mewn Ysgolheictod a Diwylliant 1536–1660"
- Geraint H. Jenkins, "Adfywiad yr Iaith a'r Diwylliant Cymraeg 1660–1800"
- Brynley F. Roberts, "Ieithoedd Celtaidd Prydain"
Cyfieithiad
golyguCyhoeddwyd fersiwn Saesneg o'r gyfrol gan Gwasg Prifysgol Cymru fel Language and Community in the Nineteenth Century yn 1998.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 10 Awst 2021