Geraint Lloyd - Y Dyn Tu Ôl i'r Llais

Hunangofiant gan Geraint Lloyd (ac Elfyn Pritchard) yw Geraint Lloyd: Y Dyn tu ôl i'r Llais a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Geraint Lloyd - Y Dyn Tu Ôl i'r Llais
AwdurGeraint Lloyd ac Elfyn Pritchard
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi27 Tachwedd 2013
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847717221

Hunangofiant Geraint Lloyd, y darlledwr adnabyddus o Geredigion. Mae Geraint wedi byw a gweithio yng Ngheredigion ar hyd ei oes. Bu'n gweithio mewn siop, mewn garej ac yna ym myd y cyfryngau.

Yr awdur golygu

Ganwyd Geraint Lloyd yn Lledrod, ger Aberystwyth. Bu’'n gweithio yn y Farmers’ Co-op yn Aberystwyth cyn gweithio fel peiriannydd cerbydau, a chynrychiolodd Cymru mewn rasys 4×4. Wedi cyfnod o ddarlledu gyda Radio Ceredigion daeth yn rhan o dîm darlledu BBC Radio Cymru yn 1997. Mae hefyd yn gyd berchennog y Siop Leol, Aberystwyth. Mae bellach yn byw gyda'’i wraig, Anna a’'i fab Tomos yn Tynrhelig, ei aelwyd enedigol.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.