Gerald Williams (sylwebydd)
Sylwebydd tenis a newyddiadurwr chwaraeon, Cymreig oedd Gerald Williams (24 Mehefin 1929 – 21 Ionawr 2016). Roedd yn ysgrifennu ar gyfer Croydon Advertiser a'r Daily Mail. Am ddeg mlynedd roedd Williams yn cyflwyno'r crynodeb nosweithiol o dwrnamaint Wimbledon ar raglenni'r BBC gyda Des Lynam.
Gerald Williams | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mehefin 1929 Surrey |
Bu farw | 21 Ionawr 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Williams yn Surrey a threuliodd ei arddegau yn Llangynog, Sir Gaerfyrddin a Croydon, de Llundain, ar ôl i'w rieni wahanu.[1][2][3] Aeth Williams i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac fe ymunodd a'r Croydon Advertiser ar ôl gadael ysgol, gan ddod yn olygydd chwaraeon y papur newydd ar ôl ychydig o flynyddoedd. Yn ddiweddarach fe ymunodd Williams a'r Daily Mail fel is-olygydd ar ôl cael ei argymell gan ei ffrind, y sylwebydd bocsio Harry Carpenter. Apwyntiwyd Williams fel gohebydd pêl-droed y Daily Mail ym Manceinion ar ôl i'w ragflaenydd, Eric Thompson, gael ei ladd yn nhrychineb awyr Munich yn 1958.[3] Mewn cyfweliad yn 2011 dywedodd Williams "Roedd hi'n deimlad rhyfedd i ddyn ifanc o Lundain fod yn eistedd ym mocs y wasg yn Old Trafford gyda'r Busby Babes newydd. ...Roedd hanner y tîm pêl-droed wedi eu lladd ond roedd yna ysbrydolrwydd am y peth."[2]
Gofynnwyd i Williams ddod yn sylwebydd tenis ar y radio gan un o swyddogion y BBC, Cliff Morgan. Roedd Williams wedi dysgu sut i fynegi'r llais yn glir drwy ei brofiad o ddrama amatur, ac fe ddywedodd ei gyd-sylwebydd Dan Maskell yn ddiweddarach fod rhai sylwebyddion yn "dweud beth oeddech chi newydd weld, llawer o'r amser... A dyna'r peth gwaetha allwch chi wneud". Mewn teyrnged yn y Daily Telegraph yn 2016 fe ysgrifennodd Jim White mai "gallu Williams i ymddiried yn y gynulleidfa i wybod beth oedd yn digwydd oedd un o'i gryfderau parhaol".[3] Dywedodd Williams am Maskell ei fod yn cofio "...gwneud gêm ar y Cwrt Canol yn Wimbledon am y tro cyntaf gyda Dan. Roeddwn yn ei barchu'n fawr. Roedd yn ddyn mor hyfryd. Doedd neb tebyg iddo. Fe ddaeth yn ffrind gorau i mi."[2]
Daeth Williams yn gysylltiedig iawn a Des Lynam, gyda'r pâr yn cyflwyno'r grynodeb nosweithiol o Wimbledon ar raglenni'r BBC am ddeg mlynedd. Cyflwynodd Williams y canwr Cliff Richard i'r chwaraewr tenis Sue Barker, gyda Richard yn ystyried priodi Barker yn ddiweddarach. Gwnaeth Jim White ddisgrifio Williams a Lynam fel "cwpl od. Wrth ochr delwedd lyfn a rhwydd Lynam roedd Williams, gyda'i wallt anffasiynol a sbectols anferth, yn edrych fel athro cemeg wedi cymryd tro anghywir ar ei ffordd i lab yr ysgol."[3]
Roedd Williams yn cydymdeimlo gydag ymddygiad gwyllt rhai chwaraewyr tenis gwrywaidd ar y cwrt yn yr 1980au yn cynnwys Jimmy Connors, John McEnroe, a Ilie Nastase, gan ddweud mewn cyfweliad "Weithiau fyddwn i'n sylwebu ac yn beirniadu'r chwaraewyr am eu hymddygiad ond yn teimlo mod i'n twyllo'n llwyr".[3] Cafodd Williams ei geryddu gan McEnroe ei hun - yn Ffeinal Davis Cup 1978 rhwng yr UDA a Prydain Fawr ddywedodd wrth y dyfarnwr i "dwedwch wrth y sylwebydd Brit yna ei gadw ei lais lawr".[3]
Treuliodd Williams ei ymddeoliad ym Mancyfelin, ger Caerfyrddin.[3]