Gerardus Mercator
Cartograffydd o Fflandrys oedd Gerardus Mercator, né Gerhard Kremer (5 Mawrth 1512 - 2 Rhagfyr 1594), a aned yn Fflandrys o rieni Almaenig.[1]
Gerardus Mercator | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Gerard De Kremer ![]() 5 Mawrth 1512 ![]() Rupelmonde ![]() |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1594 ![]() Duisburg ![]() |
Dinasyddiaeth | Habsburg Netherlands ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, daearyddwr, athronydd, diwinydd, mapiwr, dyfeisiwr, cosmograffwr, academydd, gwneuthurwr offerynnau, llenor ![]() |
Swydd | cosmograffwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Mercator projection, Mercator 1569 world map, Mercator map of Palestine, Angliae, Scotiae & Hiberniae nova descriptio, Mercator Europe map, Literarum latinarum, quas italicas, cursoriasque vocant, scribendarum ratio, Chronologia, Tabulae Geographicae, Mercator globe of the Earth (1541) ![]() |
Priod | Barbara Schellekens, Gertrude Vierlings ![]() |
Plant | Bartholomeus Mercator, Rumold Mercator, Arnold Mercator ![]() |
llofnod | |
![]() |

Cafodd ei addysg ym mhrifysgol Louvain. Cyflogodd yr Ymherodr Glân Rhufeinig Siarl V Fercator i wneud mapiau at ddefnydd milwrol ac wedi hynny fap o Fflandrys ei hun.
Yn 1552 ymsefydlodd yn Duisburg, ar ôl cael ei gyhuddio o heresïaeth yn 1544 a gorfod ffoi Fflandrys, a chafodd ei gyflogi gan Dug Cleves. Treuliodd weddill ei oes yn gwneud mapiau.
Yn 1568 dyfeisiodd y system taflunio, paralelau a meridionau ar gyfer llunio mapiau sy'n dal i ddwyn ei enw o hyd (Tafluniad Mercator).
Cafodd ei fapiau eu cyhoeddi mewn llyfr arbennig ac fe'i galwyd yn "atlas" am ei fod yn dangos llun o'r arwr chwedlonol Atlas yn dwyn i fyny'r Ddaear ar ei ysgwyddau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Low Countries: Arts and Society in Flanders and the Netherlands, a Yearbook (yn Saesneg). Flemish-Netherlands Foundation "Stichting Ons Erfdeel". 1994. t. 281.