Dinas yn nhalaith ffederal Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin yr Almaen yw Duisburg. Saif Duisberg gerllaw'r fan lle mae afon Ruhr yn llifo i mewn i afon Rhein. Gyda phoblogaeth o 495,668 yn 2007, saif yn drydydd ymysg dinasoedd Ardal y Ruhr o ran poblogaeth.

Duisburg
Mathdinas fawr, prif ganolfan ranbarthol, tref goleg, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of North Rhine-Westphalia Edit this on Wikidata
Poblogaeth502,211 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSören Link Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVilnius Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRegionalverband Ruhr, Ardal Fetropolitan Rhine-Ruhr Edit this on Wikidata
SirArdal Llywodraethol Düsseldorf Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd232.8 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr33 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Ruhr, Afon Rhein, Alte Emscher, Kleine Emscher, Camlas Rhine–Herne Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDüsseldorf, Wesel, Oberhausen, Mülheim an der Ruhr, Rhein-Kreis Neuss, Krefeld, Meerbusch, Mettmann, Ratingen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4322°N 6.7611°E Edit this on Wikidata
Cod post47279, 47001, 47051 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSören Link Edit this on Wikidata
Map
Arfbais Duisburg yn neuadd y dref yn Duisburg

Yn y cyfnod Rhufeinig, adwaenid Duisberg fel Dispargum. Ceir cofnod i'r ddinas gael ei hanrheithio gan y Llychlynwyr yn 883. Yn wreiddiol roedd y ddinas yn union ar lan afon Rhein, ond tua 1200 newidiodd yr afon ei chwrs ychydig, a phenderfynwyd adeiladu harbwr newydd ar yr afon. Harbwr Duisburg yw'r harbwr mwyaf yn Ewrop nad yw ger y môr.

Roedd Duisburg yn adnabyddus am ei gweithfeydd dur a'i diwydiant glo, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r rhan fwyaf o'r pyllau glo wedi cau. Bu'r cartograffydd Gerardus Mercator yn gweithio yma o 1552 hyd 1594, ac mae wedi ei gladdu yma.