Lleolir Gerddi Menara i'r gorllewin o ddinas Marrakech, Moroco, wrth droed mynyddoedd yr Atlas. Cawsant eu creu yn y 12g (tua 1130) gan Abd al-Mu'min, swltan Almohad Moroco.

Gerddi Menara
Mathgardd, treftadaeth Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVeliko Tarnovo, Veliko Tarnovo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMedina of Marrakesh Edit this on Wikidata
SirMarrakech Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd89 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.616703°N 8.024237°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTreftadaeth ddiwylliannol Moroco, rhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Tardda'r enw menara o'r pafiliwn Mwraidd gyda'i tho gwyrdd bychan o ffurf byramidaidd (menzeh). Adeiladwyd yn pafiliwn yn y 16g gan reolwyr y freninllin Saadi a chafodd ei atgyweirio yn 1869 gan y Swltan Abderrahmane, a arferai aros yno yn ystod yr haf.

Dyfrhau

golygu

Amgylchynir y pafiliwn a'r basn neu lyn artiffisial gan berllannau a llwyni olewydd. Yr amcan wrth adeiladu'r basn oedd gally dyfrhau y gerddi a pherllannau o'i gwmpas trwy ddefnyddio system soffistigedig o sianeli tanddaearol a elwir yn qanats. Caiff y basn ei ddŵr diolch i hen system hydrolig sy'n cyfleu dŵr o droedfryniau'r Atlas, tua 30 km i ffwrdd o Marrakech ei hun.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato