Gardd Majorelle
Gardd fotanegol ym Marrakech, Moroco yw Gardd Majorelle (Arabeg: حديقة ماجوريل, Ffrangeg: Jardin Majorelle). Cafodd ei chynllunio gan yr artist Ffrengig alltud Jacques Majorelle (1886-1962), mab yr arlunydd Art Nouveau Louis Majorelle o Nancy, yn 1924, yn ystod y cyfnod trefedigaethol pan fu Moroco yn wlad dan awdurdod Ffrainc. Fel arlunydd, mae paentiadau dyfrliw orientalaidd Majorelle wedi mynd yn anghof bron erbyn heddiw (ceir nifer o angreifftiau yn y casgliad yn ei villa yn y gerddi), ond ystyrir y gerddi a greodd ym Marrakech fel ei gampwaith creadigol. Enwir y lliw glas cobalt a ddefnyddiodd yn helaeth yn ei ardd a'i adeiladau ar ei ôl, sef bleu Majorelle ('Glas Majorelle').
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/39/Maroc_Marrakech_Majorelle_Luc_Viatour_6.jpg/220px-Maroc_Marrakech_Majorelle_Luc_Viatour_6.jpg)
Mae'r ardd wedi bod ar agor i'r cyhoedd er 1947. Yn 1980, prynwyd yr ardd gan y cynllunydd Yves Saint-Laurent a Pierre Bergé. Ar ôl i Yves Saint Laurent farw yn 2008 cafodd ei lwch ei wasgaru yng Ngardd Majorelle.[1]
Mae'r ardd yn gartref i Amgueddfa Celf Islamig Marrakech, sy'n cynnwys casgliad o frethynnau Maghrebaidd traddodiadol o gasgliad personol Yves Saint-Laurent ynghyd â gwaith ceramig, gemwaith, a phaentiadau dull orientalaidd rhamantaidd gan Majorelle.
Ceir mwy na 15 rhywogaeth o adar Gogledd Affrica yn yr ardd.
Cyfeiriadau
golyguOriel
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) gwefan Jardin Majorelle
- Lluniau o Ardd Majorelle Archifwyd 2008-04-06 yn y Peiriant Wayback.