Dyfrhau yw ychwanegu dŵr at y tir, fel rheol ar gyfer tyfu cnydau. Fe'i defnyddir lle nad oes digon o law ar gyfer tyfu'r cnydau hyn, neu yn ystod cyfnodau o sychder.

Dyfrhau cotwm yn yr Unol Daleithiau.

Ceir cofnodio archaeolegol o ddyfrhau o gyfnod cynnar iawn. gyda thystiolaeth ei fod yn cael ei ddefnyddio yn Mesopotamia a'r Aifft yn y 6ef mileniwn CC. ar gyfer tyfu haidd. Yn nyffryn Zana yn yr Andes ym Mheriw, cafwyd hyd i weddillion camlesi dyfrhau o'r 4edd mileniwm CC., ac roedd sysyem ddyfrau soffistigedig yn caewl ei defnyddio yng ngyfnod Gwareiddiad Dyffryn Indus, gyda chronfa ddŵr yn Girnar a ddyddir i 3000 CC. Defnyddid system gymhleth iawn yn Sri Lanca o tua 300 CC ymlaen.

Yn y cyfnod diweddar, datblygwyd peiriannau a allai bwmpio dŵr o'r ddaear yn hytrach na dibynnu ar afon neu gronfa. Yn 2000 roedd 2,788 km² (689 miliwn acer) o dir amathyddol yn defnyddio offer dyfrhau,68% ohono yn Asia, 17% yn America, 9% yn Ewrop a 5% yn Affrica. Ceir yr ardaloedd ehangag yng ngogledd India gerllaw Afon Ganga ac Afon Indus, yn Tsieina o amgylch afonydd Hai He, Huang He a'r Yangtze, o amgylch Afon Nîl yn yr Aifft a Swdan ac mewn rhannau o'r Unol Daleithiau.

Gall dyfrhau gael effeith niwediol ar yr amgylchedd os cymerir gormod o ddŵr. Un enghraifft yw Môr Aral, sydd bron wedi diflannu o ganlyniad.