Gerddi Ness
Gerddi botanegol yng Nghilgwri, Swydd Gaer yw Gerddi Ness, yng nghadwraeth Prifysgol Lerpwl.
Math | gardd fotaneg |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Neston |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 12.31 ha |
Cyfesurynnau | 53.2724°N 3.043°W |
Cod OS | SJ3046775564 |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II |
Manylion | |
Hanes
golyguDechreuwyd y gerddi ym 1898 gan Arthur Kilpin Bulley, gwerthwr cotwm yn Lerpwl. Gofynnodd i deithwyr i nôl hadau o lefydd tramor i gyfoethogi ei gerddi. Nododd teithiau i gasglu planhigion o dramor, a dechreuodd y cwmni Bees Nursery, yn gwerthu hadau yn rhad i’r cyhoedd.[1] Ar ôl ei farwolaeth ym 1942, rhoddwyd y gerddi i Brifysgol Lerpwl gan ei ferch Lois gyda gwaddol o £75,000, i’w gadw yn gerddi botanegol ac yn cadw ardal benodol agor i’r cyhoedd.[2]