Germaine de Staël
Nofelydd, athronydd, ac hanesydd o Ffrainc oedd Anne Louise Germaine, baronne de Staël-Holstein (ganwyd Anne Louis Germaine Necker; 22 Ebrill 1766 – 14 Gorffennaf 1817) a elwir yn aml yn Madame de Staël. Trwy ei brwdfrydedd dros Ramantiaeth Almaenig a'i phwyslais ar hanes syniadau, cafodd ddylanwad ar athroniaeth Ewrop, a Ffrainc yn enwedig yn ystod y cyfnodau chwyldroadol a Napoleonig. Y bont rhwng yr Oleuedigaeth a'r mudiad Rhamantaidd yw'r ddelwedd draddodiadol o'i gwaith. Canolbwyntia'r astudiaethau diweddar amdani ar ei phwysigrwydd fel llenores a meddylwraig gwreiddiol a lwyddodd i godi uchlaw'r cyfyngiadau a orfodwyd ar ferched yn ystod ei hoes.[1]
Germaine de Staël | |
---|---|
Portread o Germaine de Staël gan François Gérard, tua 1810 | |
Ganwyd | Anne-Louise Germaine Necker 22 Ebrill 1766 Paris |
Bu farw | 14 Gorffennaf 1817 Paris |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Genefa, Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, perchennog salon, dyddiadurwr, beirniad llenyddol, gwleidydd, gohebydd, athronydd |
Adnabyddus am | On Germany, Corinne ou l'Italie |
Tad | Jacques Necker |
Mam | Suzanne Curchod |
Priod | Erik Magnus Staël von Holstein, Albert Jean Michel de Rocca |
Partner | Benjamin Constant, Charles-Maurice de Talleyrand-Périgord, Louis, comte de Narbonne-Lara |
Plant | Albertine, baroness Staël von Holstein, Auguste-Louis de Staël-Holstein, Louis Alphonse de Rocca |
Perthnasau | Louis Necker, Jacques Necker de Saussure |
llofnod | |
Ganwyd ym Mharis i rieni Swisaidd Protestannaidd. Priododd y Barwn Staël-Holstein, diplomydd Swedaidd, ym 1786. Gadawodd Ffrainc ym 1792 yn ystod yr oes chwyldroadol, ond dychwelodd dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth. Cynhaliodd salon ym Mharis a fu'n ganolfan i ddeallusion a gwleidyddion o fri, ac yno enillodd enw i'w hunan fel ymddiddanwraig ffraeth. Yn ddiweddarach gwahanodd o'i gŵr a daeth yn glos i Benjamin Constant.
Ysgrifennodd ddwy nofel a ellir eu hystyried yn "rhag-ffeministaidd": Delphine (1802) a Corinne (1807). O ganlyniad i'w gwrthwynebiad i Napoleon Bonaparte bu'n rhaid iddi adael Paris ym 1803. Cyhoeddodd hefyd sawl traethawd ar athroniaeth gymdeithasol ac estheteg, a hefyd y tair cyfrol De l'Allemagne (1810) yn sgil ei thaith drwy'r Almaen. Cafodd argraffiad cyntaf y gwaith hwnnw ei ddinistrio ar orchymyn Napoleon, gan iddo ei ystyried yn "wrth-Ffrengig".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Germaine De Staël" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Medi 2017.