Digrifwr a chynhyrchydd teledu oedd Gethin Wyn Thomas (Rhagfyr 196713 Awst 2017).[1]

Gethin Thomas
GanwydRhagfyr 1967 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Magwyd Gethin ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dechreuodd ei yrfa gomedi yn 1991 pan aeth ati i gynnal sioeau stand-yp Cymraeg yng Nghaerdydd. Roedd yn un o sawl digrifwr ifanc a aeth ati i ddatblygu byd comedi stand-up Cymraeg yn y 1990au. Yn 2002 cynhyrchodd y rhaglen Gwneud e'n sefyll lan ar gyfer S4C.

Aeth ymlaen i fod yn sgriptiwr ar raglenni teledu fel Hotel Eddie ac Y Rhaglen Wirion ‘Na ar S4C ac ar raglenni radio fel Radio Cwm Cwat.[2]

Roedd yn gyfarwyddwr ar gwmni teledu Zeitgeist Entertainment. Bu'n aelod brwd o TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) ac yn aelod gweithgar o’r Cyngor ers 2009. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr ar y Radio Independents Group, corff sy'n cynrychioli cwmniau radio annibynnol.[3]

Bu farw yn sydyn yn ei gartref ar 13 Awst 2017. Cyn ei farwolaeth roedd wedi bod yn gweithio gyda nifer o ddigrifwyr ar eu deunydd newydd, yn cynnwys y digrifwr Elis James.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  THOMAS Gethin : Obituary. bmdsonline.co.uk (23 Awst 2017).
  2. Y digrifwr Gethin Thomas wedi marw , BBC Cymru Fyw, 15 Awst 2017.
  3. Gethin Thomas, y digrifwr, wedi marw , Golwg360, 15 Awst 2017.