Ffurf o gomedi yw comedi stand-yp, comedi ar ei sefyll[1] neu gomedi ar ei draed[1] lle mae digrifwr yn perfformio o flaen cynulleidfa yn fyw, gan eu hannerch yn uniongyrchol.[2] Weithiau caiff perfformiadau eu ffilmio er mwyn eu rhyddhau ar DVD, y rhyngrwyd, neu deledu, neu eu recordio a'u rhyddhau ar albwm. Gelwir y perfformiwr yn ddigrifwr(aig) ar ei sefyll, yn ddigrifwr(aig) ar ei draed, neu'n stand-up (o'r Saesneg: stand-up comedian).

George Carlin yn perfformio comedi ar ei sefyll.

Yng Nghymru

golygu

Yng ngwledydd Prydain mae comedi stand-yp yn draddodiad sy'n deillio yn wreiddiol o neuaddau gerddoriaeth yn y 18fed a'r 19eg ganrif, gyda pherfformwyr unigol ar lwyfan theatr, yn dweud jôcs neu adrodd stori. Yng Nghymru roedd llai o gyfleoedd i berfformio'n broffesiynol ac roedd traddodiad yn fwy gwerinol ac amatur, gyda cyfleoedd i berfformio comedi mewn eisteddfodau, clybiau cymdeithasol, tafarndai, nosweithiau llawen a chlybiau ffermwyr ifanc. Arweinydd noson adloniant fyddai'r digrifwr fel arfer yn llenwi bwlch rhwng pob eitem. Mae'r digrifwr Idris Charles yn cofio trefnu nosweithiau yn niwedd y 1960au a'r 1970au gyda digrifwyr fel Dilwyn Edwards, Glan Davies, Trefor Selway, Alun Lloyd, Mair Garnon a Peter Hughes Griffiths.[3]

Yn y 1970au a'r 1980au datblygodd arddull fodern stand-yp ar y cyd â chomedi angen, gyda mwy o bwyslais ar ddychan, wleidyddiaeth neu arsylwadau am fywyd. Yn y 1990au fe ddaeth stand-yp Cymraeg i sylw eto ac yn 1996 ac 1997 darlledwyd Y Jocars ar S4C, cyfres a gynhyrchwyd gan Idris Charles. Fe ymddangosodd mwy o ddigrifwyr Cymraeg yn y 2000au gyda llawer yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg yn yr un math o glybiau a digrifwyr eraill, er nad oedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar deledu.[4] Yn y 2010au darlledodd S4C sawl gyfres gomedi stand-up yn cynnwys GigL, Gwerthu Allan a noson gomedi arbennig yn Eisteddfod 2013, Y Babell Lon.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1357 [stand-up comedian].
  2. (Saesneg) stand-up comedy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.
  3. "Glywsoch chi'r jôc?..." , BBC Cymru Fyw, 18 Awst 2015. Cyrchwyd ar 15 Mawrth 2016.
  4. Y Beatles Cymraeg? , BBC Cymru Fyw, 15 Mawrth 2016.