Digrifwr ac actor Cymreig yw Elis James (ganwyd 3 Tachwedd 1980) a fagwyd yng Nghaerfyrddin. Yn ddiweddarach aeth i fyw yng Nghaerdydd ac mae nawr yn byw yn Llundain. Mae'n siaradwr Cymraeg ac mae wedi perfformio yn Gymraeg a Saesneg.[1]

Elis James
Ganwyd3 Tachwedd 1980 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd James yn Hwlffordd a symudodd y teulu i Gaerfyrddin pan oedd yn 11 mlwydd oed.[2][3] Mynychodd Ysgol Gyfun Bro Myrddin.[4] Roedd ei fam yn gweithio gyda thad y digrifwr Cymreig Rhod Gilbert a mam y cerddor Cymreig Euros Childs.[5]

Cyn dod yn ddigrifwr proffesiynol, fe gafodd James amryw o swyddi, yn cynnwys gwaith dros dro, gwaith elusennol a gwaith rhan-amser mewn caffi.[3] Esboniodd James yn 2012:

... Fe wnes i waith swyddfa arferol a ro'n i'n ofnadwy am wneud y gwaith—ges i'r sac unwaith am ddiogi, a fydden i yn dweud celwydd yn gyson i ddod mas o drwbl cyn anghofio pa gelwydd ddwedes i ac felly gwneud y sefyllfa'n waeth. Fe wnes i un job dros dro lle o'n i allu gwneud y gwaith mewn hanner awr felly o'n i'n cymryd llyfrau mewn a darllen pan nad oedd y bos yn edrych.[3]

Gyrfa golygu

Comedi golygu

Dechreuodd James ei yrfa comedi yn 2005, ond fe aeth i weithio'n llawn amser fel digrifwr yn 2008.[3][6] Cyn symud i gomedi yn llawn amser, roedd James yn gitarydd i'r band indi/pync o Gaerdydd, Heck, gyda'r canwr blaen Jemma Roper.[7] Recordiodd y band EP a chael eu chwarae ar BBC 6 Music, BBC Radio Wales a sioe Cymru o BBC Introducing, a ddarlledwyd ar Radio 1. Fe wnaethon nhw berfformio yn nosweithiau bandiau newydd trefnwyd gan yr NME.[8]

Yn sioe fyw Chris Corcoran's Committee Meeting o 2009 roedd James yn chwarae cymeriad Rex Jones, hen ofalwr oedd yn ôl-Farcsydd gydag obsesiwn ag iechyd a diogelwch. Cynhaliwyd y sioe, a greuwyd gan y digrifwr Cymreig  Chris Corcoran, am dair blynedd yng Nghanolfan Gelfyddydol y Muni. Yn 2014, esboniodd Corcoran: "Fe fydden ni'n ysgrifennu pob sioe o'r dechrau mewn pum diwrnod a'r tro cyntaf fydden ni'n ei berfformio byddai o flaen y gynulleidfa".[9]

Cefnogodd Rhod Gilbert ar daith drwy wledydd Prydain o'i sioe, "Rhod Gilbert and the Award-Winning Mince Pie", yn 2010. Drwy gefnogi Gilbert, cafodd James y profiad o berfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr o dros 1,500 o bobl ac fe ddywedodd yn ddiweddarach ei fod yn teimlo fel "seren bop" pan oedd yn cerdded ar y llwyfan.[5] Perfformiodd James ei sioe "Daytripper" yn Ffrinj Gŵyl Caeredin 2010.[10]

Fe wnaeth James a Corcoran berfformio yn sioe "gorau o" wedi ei seilio ar sioe Chris Corcoran's Committee Meeting, yn cynnwys y sioe radio Social Club FM, yn Ffrinj Gŵyl Caeredin 2012. Fe wnaeth y sioe dderbyn anrhydedd 'Pick of the Fringe' papur y Guardian a arweiniodd at wneud peilot teledu The Committee Meeting ar ôl i gwmni gynhyrchu Tiger Aspect ddangos diddordeb.[9]

Yn 2012, mewn ymateb i gwestiwn yn 2012 yn gofyn a oedd gwahaniaeth rhwng comedi Saesneg a Chymraeg, dywedodd James:

Mae yna wahaniaethau, er yn fach, ond mae'r cyfeiriadau yn amlwg yn wahanol. Ond ddim mor wahanol fel nad yw comediwyr Cymreig yn gallu bod yn llwyddiannus yn Lloegr, a'r ffordd arall rownd. Mae yna ddigonedd o wahaniaeth rhanbarthol yn hiwmor Seisnig. Fe fydden i'n addasu fy neunydd os o'n i yn Aberystwyth i gymharu â Manceinion, ond ddim yn sylweddol.[11]

James oedd cyflwynydd perfformiad Gala Gŵyl Gomedi Machynlleth yng Ngŵyl y Gelli yn Mai 2014. Perfformiodd gyda'i bartner Isy Suttie hefyd, ynghyd a'r comediwyr Henry Paker a Mike Wozniak.[12] Yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth 2015, perfformiodd James sioe newydd Work in Progress yn ogystal â set yn Gymraeg.[13]

Radio golygu

Chwaraeodd James gymeriad Rex Jones yn sioe radio Chris Corcoran's Committee Meeting, Social Club FM, a ddarlledwyd yn wreiddiol yn Awst 2011 ar BBC Radio Wales a redodd am ddwy flynedd.[9][14]

Ar 16 Chwefror 2014, cychwynnodd James sioe radio yn y bore ar XFM, lle mae'n cyd-gyflwyno gyda'r digrifwr John Robins.[15]

Ers 2014, mae James wedi cyd-ysgrifennu a chyd-serennu yn y sioe sgets Here Be Dragons ar BBC Radio Wales. Enillodd y sioe wobr Sony Award (Efydd) yn 2014 am y Comedi Gorau.[16]

Teledu golygu

Cyflwynodd James benodau cynnar o'r sioe gerddoriaeth Bandit ar S4C[17] ac mae wedi ymddangos ar elfennau o'r rhaglen i ddysgwyr Cymraeg, Hwb.[18]

Yn 2013, roedd The Committee Meeting yn rhan o "Comedy Feeds" BBC Three, cyfres o beilotau comedi teledu oedd ar gael ar y BBC iPlayer yn unig.[19] Roedd y peilot yn serennu James a Corcoran, gyda pherfformiwr gwadd Colin Baker. Fe'i darlledwyd ar BBC One Wales yn Awst 2014.[9]

Yn 2014, ymddangosodd James fel Nigel ym mhennod 3 o ail gyfres Crackanory, ar sianel deledu Dave.

Hefyd yn 2014, fe ymddangosodd James ym mheilot "Comedy Feed" Josh, yn serennu Josh Widdicombe. Darlledwyd cyfres lawn, chwe phennod, o Josh ar BBC Three rhwng 11 Tachwedd a 16 Rhagfyr 2015.[20] Comisiynodd BBC Three ail gyfres lawn o Josh, a ryddhawyd ar lein yn Hydref 2016 wedi ei BBC Three newid i fod yn sianel ar lein yn unig yn Chwefror 2016. Mae trydydd cyfres ar y gweill.[21]

Mae James wedi ffilmio prif ran mewn comedi sefyllfa 600 Days i'r BBC, ail-enwyd yn Crims.[22][23] Darlledwyd y comedi ar BBC Three yn gynnar yn 2015.[24]

Yn Medi 2015 perfformiodd ei sioe stand-up llawn cyntaf yn Gymraeg a fe'i recordiwyd i'w ddarlledu ar S4C ar 19 Rhagfyr 2015.[25][26]

Yn Hydref 2017 ymddangosodd mewn cyfres pedwar rhan ar BBC Two Wales lle roedd yn teithio o gwmpas Cymru gyda'r digrifwr Miles Jupp.[27]

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Enillodd James y Comedi Gorau yn Ngwobrau Cenedlaethol Radio Myfyrwyr yn 2006.[28]

Bywyd personol golygu

Mae James yn ddilynwr brwd o bêl-droed ac mae'n cefnogi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Fe esboniodd yn 2010 mae'r peth gwaethaf am fod yn ddigrifwr oedd bod gemau Dinas Abertawe yn cael eu chwarae ar yr un amser a'i sioeau byw. Fe ddywedodd yn 2010 mai eu hoff sêr chwaraeon oedd George Best a Muhammad Ali.[10]

Mae gan James M.A. yn Hanes Cymru.[29] Mae mewn perthynas gyda'r actores, digrifwraig a'r cerddor Isy Suttie.[30] Mae'r cwpl yn byw yn Ne Llundain ac mae ganddynt ferch, ganwyd yn 2014.[31][32]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Elis James on : Chortle : The UK Comedy Guide", Comedians database (Chortle.co.uk), http://www.chortle.co.uk/comics/e/33351/elis_james, adalwyd 6 Mehefin 2013
  2.  Sylw Elis James ar Twitter (11 Awst 2016).
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Don't mind your ps and qs: Elis James". WalesOnline. Media Wales Ltd. 4 Chwefror 2012. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  4. Lee MacGregor. Carmarthen comedian Elis James to star in new BBC Three comedy Crims (en) , Carmarthen Journal, 7 Ionawr 2015. Cyrchwyd ar 30 Mehefin 2016.
  5. 5.0 5.1 "Elis James has Rhod Gilbert to thank for career leg up". WalesOnline. Media Wales Ltd. 18 Ionawr 2011. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  6. Elis James, Comedy CV, http://comedycv.co.uk/elisjames/index.html, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
  7. "Heck". Myspace. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2015.
  8. "New bands set for new London club night". NME. 1 Awst 2007. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 Chris Corcoran (8 Awst 2014). "Making The Committee Meeting". BBC Wales. BBC. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  10. 10.0 10.1 Jonny Abrams (4 Awst 2010). "Edinburgh Fringe Grilling: Elis James". Sports.co.uk. Sports.co.uk. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  11. Gig In A Castle – Isy Suttie & Elis James interview, British Comedy Guide, 21 Mehefin 2012, http://www.comedy.co.uk/live/preview/powis_castle_isy_suttie_elis_james_gig/, adalwyd 6 July 2013
  12. "ISY SUTTIE, HENRY PAKER, MIKE WOZNIAK AND ELIS JAMES". Hay Festival. Hay Festival of Literature & the Arts Ltd. 31 Mai 2014. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  13. "What's On". machcomedyfest.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-07. Cyrchwyd 26 July 2015.
  14. Social Club FM – Production Details, British Comedy Guide, http://www.comedy.co.uk/guide/radio/social_club_fm/details/, adalwyd 6 Mehefin 2013
  15. "XFM Announces New Weekend Shows". XFM. 12 Chwefror 2014.
  16. "2014 RADIO ACADEMY AWARDS WINNERS ANNOUNCED". Radio Academy Awards. 12 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-10. Cyrchwyd 2015-12-18.
  17. Preview: Chris Corcoran and Elis James at Maesteg Town Hall, Cardiff: WalesOnline, 2 July 2009, http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/preview-chris-corcoran-elis-james-2092019, adalwyd 6 July 2013
  18. Hwb — "Y Wers Gymraeg" (14/4/13) Pen. 31 / Eps. 31 ar YouTube
  19. "The Committee Meeting", Comedy Feeds, 2013 (BBC Three), 2013, http://www.bbc.co.uk/programmes/p01by7cb, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
  20. "Josh". BBC Three. BBC. Rhagfyr 2015.
  21. "BBC Three orders a full series of Josh". Radio Times. 17 Rhagfyr 2015.
  22. "Elis James to star in BBC Three prison comedy". Chortle. 20 Mawrth 2014.
  23. "BBC - Crims is a new BBC Three comedy airing early January 2015 - Media centre". BBC.
  24. "BBC Three - Schedules, Sunday 11 Ionawr 2015". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2015-12-18.
  25. Elis James a chomedi Cymraeg, BBC Cymru Fyw; Adalwyd 19 Rhagfyr 2015
  26. Elis James yn chwerthin yn Gymraeg ar S4C; Adalwyd 19 Rhagfyr 2015
  27. BBC Two - James and Jupp
  28. Coming Soon To The Glee Club : Elis James, The Glee Club, https://glee.co.uk/index.php?id_page=169&id_performer=3395, adalwyd 6 July 2013
  29. "BBC One - Whose Coat is That Jacket?, Episode 2". BBC. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2015.
  30. Owen, Rhodri (6 October 2011), "Why Isy Suttie – Peep Show's Dobby – is learning Welsh", BBC News – South West Wales (BBC News), http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-15173041, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
  31. Day, Elizabeth (16 Mawrth 2013), "Isy Suttie: 'I like to explore love… and throw in stuff about cagoules'", The Observer (London: Guardian News and Media), ISSN 0029-7712, http://www.guardian.co.uk/stage/2013/mar/16/isy-suttie-peep-show-love-feature, adalwyd 6 Gorffennaf 2013
  32. Jay Richardson (12 Rhagfyr 2014). "Isy Suttie writes her memoir". Chortle.

Dolenni allanol golygu