Gildas (cerddor)

cerddor a phrif gitarydd Al Lewis Band

Canwr a chyfansoddwr Cymraeg o Lansannan yw Gildas. Ei enw iawn yw Arwel Lloyd Owen.

Gildas
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Yn brif gitarydd yr Al Lewis Band mae Arwel wedi dangos ei fod yn meddu hefyd ar y talent i berfformio fel artist unigol.

Yn wreiddiol o Lansannan, astudiodd Arwel Hanes yn y Brifysgol cyn troi ei olygon at Gerddoriaeth. Ei gefndir hanesyddol wnaeth roi'r ysbrydoliaeth iddo ddewis yr enw 'Gildas', er cof am y Mynach Cymreig o'r un enw fu'n pererindota trwy Gymru yn y 6g ac yn cofnodi digwyddiadau'r dydd yn ei weithiau.

Rhyddhaodd ei albwm gyntaf, Nos Da ar label Sbrigyn Ymborth yn 2010 a chafodd cryn ganmoliaeth gan y beirniaid:

"O'm safbwynt i, roedd Nos Da yn un o albyms Cymraeg gorau 2010, os nad y gorau ohonyn nhw..." (Owain Schiavone)[1]

Mae Gildas yn defnyddio dulliau anghyffredin i greu sain unigryw fel 'delays' annisgwyl, tiwnio gwahanol i'r arfer a chyfuno'r electroneg gyda'r gwerin. Disgrifir ei ganeuon fel hwiangerddi modern ac mae wedi enwi Chet Atkins, Doc Watson ac eraill ymhlith ei ddylanwadau cerddorol.

Disgyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Adolygiad Ar Gof a Chadw, Al Lewis Band'. Golwg 360 (16 Mai 2011).

Dolenni allanol golygu